Lleoliad:
Powys
Swm cyllido:
£50901.00

Cyflwyniad 

Mae Safleoedd Bywyd Gwyllt Lleol (LWS) yn safleoedd o werth sylweddol o ran cadwraeth natur. Dyma'r lleoedd pwysicaf ar gyfer bywyd gwyllt y tu allan i safleoedd dynodedig statudol ac mae'r cysylltiadau y maen nhw'n yn eu darparu mewn cyd-destun lleol, o bwysigrwydd hanfodol i'r adnodd bioamrywiaeth cyfan mewn ardal benodol. Mae gwreiddiau systemau Safleoedd Lleol biolegol yn ymestyn yn ôl i'r 1970au, pan oedd ymddiriedolaethau natur yn y DU yn dymuno amddiffyn ac annog rheolaeth yr adnodd bioamrywiaeth cyfan o fewn ardal llywodraeth leol benodol. Y syniad y tu ôl i hyn oedd darparu system gynhwysol o safleoedd i gefnogi a gorfodi o’r newydd nodweddion safleoedd dynodedig statudol. Mae system LWS wedi bod ym Mhowys ers 1999, er bod llawer o safleoedd o werth i fywyd gwyllt wedi'u nodi a'u rhestru ar gofrestr mor gynnar â chanol yr 1980au.

Wrth i'r meini prawf agosáu at nodi eu pen-blwydd yn 20 oed, roedd yn bryd iddynt gael eu hadolygu, a'u gwneud yn gydnaws â pholisi a strategaeth fodern. Yn dilyn creu system 1999, roedd maint y gwaith a wnaed ar LWS yn amrywio ar draws Powys; gan fod y system yn dibynnu'n bennaf bron ar yr ymddiriedolaethau bywyd gwyllt i'w gweithredu, roedd adnoddau a gallu yn effeithio ar hyn. Cwblhawyd rhai mân adolygiadau o'r meini prawf mewn rhai is-siroedd, ond nid mewn eraill. Er gwaethaf bod yn rhan o system gynllunio Powys ers 20 mlynedd, mae diffyg adnoddau ac ymwybyddiaeth yn aml wedi arwain at  bolisïau diogelu statudol, sy'n ofynnol er mwyn sicrhau cydnerthedd tymor hir rhwydwaith LWS, yn cael eu cymhwyso mewn ffordd anghyson ac annigonol. Roedd hi'n bryd dod â'r cyfan at ei gilydd, ar draws Powys unwaith eto. Gan ei fod yn eiddo preifat, mae system LWS bob amser wedi canolbwyntio dim ond ar nodi a dethol safleoedd a gweithio gyda'u perchnogion/rheolwyr i sicrhau rheolaeth dda ar gynefinoedd. O ystyried heriau cynyddol newid hinsawdd, datblygiadau, dwysáu amaethyddol ac yn y blaen, sy’n arwain at golledion bioamrywiaeth parhaus a chwymp ecosystemau, mae'n amser am ffyrdd newydd o feddwl er mwyn cynyddu cydnerthedd ecolegol. Pobl yw'r broblem, ond nhw yw'r ateb hefyd.

Roedd hi'n amser ymgysylltu â phobl Powys a dweud wrthynt am y lleoedd gwyllt arbennig hyn, sy’n aml yn ddigon di-nod ac sy'n eu hamgylchynu. Byddai hyn yn rhoi rheswm iddynt adael eu hystafelloedd byw a chamu i mewn i fyd newydd, sy’n aml rownd y gornel neu i lawr y stryd; dyma greu y prosiect 'Where the Wild Things Are'. 

2. Her 

Mae'r rhwydwaith Safleoedd Bywyd Gwyllt Lleol wedi bod yn rhan o system gynllunio Powys ers dros 20 mlynedd, ond yn aml mae diffyg adnoddau ac ymwybyddiaeth wedi golygu bod polisïau diogelu statudol, sy'n ofynnol er mwyn sicrhau cydnerthedd tymor hir y rhwydwaith, yn cael eu cymhwyso mewn ffordd anghyson ac annigonol. Er gwaethaf amddiffyniadau statudol a phwysigrwydd y rhwydwaith hwn i bobl a bywyd gwyllt Powys, mae LWS dan fygythiad fel erioed o'r blaen. Mae patrwm hirdymor camreoli yn bygwth dyfodol yr ased naturiol hanfodol hwn i bobl a bywyd gwyllt. Mae hwn yn batrwm sy'n cael ei adlewyrchu ar draws y Deyrnas Unedig gyfan. Mae adroddiadau o Sefyllfa Byd Natur wedi datgelu bod mwy nag un o bob deg o'r holl rywogaethau a aseswyd dan fygythiad o ddiflannu'n gyfan gwbl.

Mae cyfoeth Cymru yn yr amgylchedd naturiol sydd, pan fydd yn gadarn ac yn gydnerth, yn cefnogi'r gwaith o ddarparu amrywiaeth o wasanaethau naturiol y mae'r gymuned leol yn dibynnu arnynt (e.e. mynediad, twristiaeth, iechyd a lles). Mae prisiad y 'gwasanaethau ecosystem (ESS)' hyn o safbwynt cynhenid ac o safbwynt ariannol yn dod i'r amlwg fel elfen sylfaenol o ran dyfodol yr economi wledig. 

3. Atebion 

Nod y prosiect Where The Wild Things Are oedd dechrau mynd i'r afael â'r heriau hyn, drwy gyfrwng yr amcanion canlynol: 

  • Ailwampio'r system bresennol lle caiff LWS eu hasesu a'u dewis i sicrhau bod y broses hon yn ymarferol ac wedi ei hymgorffori'n llawn yn y system gynllunio i'r dyfodol 
  • Adeiladu gwaddol o berchnogaeth gymunedol gefnogol ac ymgysylltiad â LWS Powys drwy ddarparu cyfleoedd gwirfoddoli i bobl a fydd yn gwella eu hardal leol er budd pobl a bywyd gwyllt 
  • Datblygu a gweithredu arolwg LWS a methodolegau cynaliadwy ar gyfer rheoli tir sy'n addas ar gyfer tirfeddianwyr, ffermwyr a gwirfoddolwyr 
  • Cefnogi gwell mynediad i LWS presennol a darpar LWS er mwyn sicrhau'r enillion mwyaf posibl i bobl leol o ran iechyd a lles
  • ‘Gwerthfawrogi' y rôl sydd gan rwydwaith LWS o ran iechyd a lles ein cymunedau cymdeithasol ac ecolegol 
  • Defnyddio platfformau cyfryngau digidol presennol a newydd i ehangu ymwybyddiaeth y gymuned o rwydwaith LWS a sut i gael mynediad iddo 

4. Budd 

Mae meini prawf blaenorol LWS Powys bellach yn 20 oed ac wedi methu â gwarchod yn erbyn colli LWS yn y gorffennol. Adolygu'r meini prawf oedd y cam mwyaf hanfodol ar gyfer mynd i'r afael â'r heriau polisi a chynllunio ar gyfer LWS. Drwy wneud system sy'n hawdd ei defnyddio a'i hymgorffori'n llawn yn y system gynllunio i'r dyfodol, byddai lefel yr amddiffyniad y mae LWS yn ei derbyn yn cael ei chryfhau. Roedd rhwydwaith Grŵp Llywio'r prosiect yn elfen allweddol o sicrhau bod yr adolygiad yn cael ei gynnal mewn modd effeithlon a chadarn. Pobl yw'r broblem, ond nhw yw'r ateb hefyd. Roedd prosiect Where the Wild Things Are yn ceisio gweithio gydag ystod eang o bobl i fynd i'r afael â'r heriau. Roedd gwirfoddolwyr yn allweddol i gyflawni'r prosiect a rhanddeiliaid allweddol hefyd. Drwy gydol y prosiect, fe wnaethom chwilio am gyfleoedd i weithio gydag amrywiaeth o gymunedau.

Ni ellir asesu safleoedd fel LWS heb ddata biolegol diweddar, manylion cynefinoedd a rhywogaethau sy'n bresennol. Mae'n rhaid cynnal arolygon ac roedd y rhain yn cynnwys gwirfoddolwyr a thirfeddianwyr lle bynnag y bo modd, gan ddarparu cyfleoedd hyfforddi, mynediad i safleoedd sydd fel arall yn anhygyrch a chyngor am ddim. Yn dilyn y cyswllt cychwynnol hwn, datblygwyd rhwydweithiau i dirfeddianwyr, er mwyn i unigolion gwrdd â phobl o'r un anian, rhannu syniadau a helpu ei gilydd. Fel arfer, mae LWS yn eiddo preifat ac nid yw eu statws yn rhoi unrhyw hawliau mynediad ychwanegol. Roedd prosiect Where the Wild Things Are yn ceisio profi a ellid hwyluso mynediad gwell ac fe nodwyd dau weithgaredd peilot ar y thema hon. Er mwyn gwerthfawrogi LWS am y gwasanaethau ecosystem y maen nhw'n ei ddarparu, defnyddiwyd yr offeryn mwyaf cyfredol a chydnabyddedig - 'Galluogi Dull Cyfalaf Naturiol' (ENCA). Er mwyn hyrwyddo'r gwerth hwnnw, aethom ati i ymgysylltu â llunwyr polisi a'r Awdurdod Lleol. Defnyddiodd y prosiect Where the Wild Things Are wefannau a phlatfformau cyfryngau cymdeithasol presennol tair ymddiriedolaeth natur ym Mhowys i godi ymwybyddiaeth o LWS a'r prosiect. 

5. Canlyniad 

Yn erbyn amcanion y prosiect, cyflawnwyd y canlynol: 

  • Llunio meini prawf newydd ar gyfer LWS ym Mhowys, a gwblhawyd ym mis Ionawr 2020 – wedi'u cynllunio i fod yn hawdd eu defnyddio, ond yn dal i weithio ar eu hymgorffori yn system gynllunio Powys; 
  • Cyfraniadau gan 69 o wirfoddolwyr unigol, dros 1,000 o oriau o'u hamser, gwerth bron i £15,000; 
  • Cynnal 25 o ddigwyddiadau; 
  • Cwblhau 199 o arolygon; 
  • Cynnal asesiad 'Galluogi Dull Cyfalaf Naturiol' (ENCA) ar LWS;
  • Cyrraedd 652 o bobl ar gyfartaledd gyda phob neges ar Facebook a 1,454 gyda phob trydariad ar Twitter, gan godi ymwybyddiaeth o LWS.

Rhwydweithiau a sefydlwyd: 

  1. Grŵp Llywio 
  2. Grŵp tirfeddianwyr Sir Drefaldwyn 
  3. Grŵp lleol Aberhonddu 

Gweithgareddau peilot: 

  • Safleoedd Bywyd Gwyllt Lleol: ystyriaeth berthnasol ym mhroses gynllunio'r Awdurdod Lleol - ymchwilio i weld a ellid defnyddio hyn i ddiogelu safle rhag datblygiadau a allai fod yn niweidiol. Roedd y canlyniadau cychwynnol yn gadarnhaol, er bod yr achos a ddilynwyd gennym o dan apêl ar hyn o bryd. 
  • Safleoedd Claddu fel Safleoedd Bywyd Gwyllt Lleol - O ystyried lleoliad claddfeydd, fel arfer yng nghanol y gymuned, yn ogystal â'u gwerth i fywyd gwyllt, maen nhw'n gyfle perffaith i sicrhau gwell mynediad at iechyd a lles. Er gwaethaf yr heriau o weithio gydag amrywiaeth eang o ddiddordebau, mae ein canlyniadau cychwynnol wedi bod yn gadarnhaol iawn. Er mwyn cael effaith barhaol, mae’n debygol y byddai angen i ni weithio gyda phob claddfa dros nifer o flynyddoedd, i helpu i ddatblygu cysylltiadau, polisïau a phrosesau newydd, ar gyfer rheoli'r safleoedd hyn yn y ffordd orau i natur ac ymgysylltu â phobl leol gyda'r safleoedd hynny. 
  • Safleoedd Bywyd Gwyllt Lleol fel lleoliad ar gyfer darpariaeth addysgol - Ar ôl dod o hyd i safle a pherchennog addas i brofi gweithgarwch peilot cyfleoedd addysgol yn eithaf hawdd ar y dechrau, mae wedi profi'n llawer anoddach eu cysylltu ag un neu fwy sefydliad addysg. Cyfathrebu yw’r prif rwystr, gyda'r mwyafrif yn parhau i beidio ag ymateb i'n hymdrechion cyfathrebu. Hyd yn oed lle cawsom gyswllt cynnes a oedd yn gadarnhaol ar y cyfan, roedd yn anodd iawn cyfathrebu â'r unigolyn. Drwy weithio gyda chymydog perchennog ein safle, a oedd â phlentyn yn y grŵp sgowtiaid, llwyddwyd i symud pethau ymlaen, ond erbyn hynny doedd dim amser ar ôl i drefnu cyfarfod. Rydym yn optimistaidd yn gyffredinol y gellid bod wedi gwneud cysylltiad pe bai mwy o amser ar gael. 
  • Rhanddeiliaid yn cymryd rhan: 95, yn cynnwys aelodau'r Grŵp Llywio, gwirfoddolwyr, tirfeddianwyr/rheolwyr. 
  • Cyfranogwyr a gefnogwyd: 239, mewn digwyddiadau a sgyrsiau. 

Swyddi wedi'u creu: un swydd Cydlynydd Prosiect cyfwerth ag amser llawn. 

Cymunedau yn elwa: 

  1. Cymuned y Drenewydd 
  2. Cymuned Eglwys Isatyn
  3. Cymuned cofnodi biolegol 
  4. Y gymuned wirfoddoli 
  5. Cymuned y tyddynwyr

Buddion i'r cymunedau hyn a nodwyd fel: 

  • Cyfle i ymweld â safleoedd preifat nad ydynt ar gael fel arall 
  • Cwrdd â phobl o'r un anian 
  • Rhannu sgiliau ag eraill • Ysgogi pobl i ddechrau eu prosiectau eu hunain 
  • Gwella sgiliau cyfrifiadurol 
  • Mynediad am ddim i wybodaeth, gan gynnwys cyngor ar reoli cynefinoedd 
  • Gwell dealltwriaeth o ehangder bioamrywiaeth ar dir 
  • Cefnogaeth i ddigwyddiadau • Gwybodaeth am bwysigrwydd bywyd gwyllt a safleoedd Cymru 
  • Rhagor o wybodaeth am ddosbarthiad fflora a ffawna ym Mhowys 
  • Cymorth i weithio gydag aelodau o'r gymuned sy'n ymgysylltu llai 
  • Negeseuon wedi'u hatgyfnerthu gan eraill 

Busnesau sy'n elwa: 

  • Y targed gwreiddiol o ran busnesau oedd yn elwa oedd busnesau fferm, ond nid oeddem yn gallu cael tystiolaeth gan unrhyw fusnesau fferm i brofi hyn.

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Liz Lewis-Reddy
Rhif Ffôn:
01938 555654
Email project contact