Lleoliad:
Abertawe
Swm cyllido:
£49999.60

Aeth Katy a Zubs, Cydlynwyr Ieuenctid Y-future Abertawe i COP26 gyda dau berson ifanc o Abertawe, gyda chymorth ariannol gan Raglen Datblygu Gwledig Abertawe.

Yn ddiweddar buom yn sgwrsio â nhw a Callum, un o'r bobl ifanc sy'n rhan o grŵp llywio Y-future Abertawe ac a aeth i COP26,  i ddarganfod sut roedd eu hymweliad â'r digwyddiad wedi'u hysgogi i feddwl am gamau ymarferol i helpu Abertawe Wledig i wella'i hymateb i'r newid yn yr hinsawdd, a chefnogi gwaith RhDG Abertawe i leihau ôl troed ecolegol anghynaliadwy Abertawe.


Dyma beth oedd gan Callum i'w ddweud:

"Aethom i'r gynhadledd ar yr 8fed a'r 9fed o Dachwedd a doedden ni ddim yn siŵr beth i'w ddisgwyl, ond yr un peth sy'n sicr yw ei fod wedi rhagori ar ddisgwyliadau pawb. Roedd y digwyddiad yn llawn bwrlwm, roedd cynifer o bobl yno o bob cwr o'r byd. 

Dwi'n meddwl bod gan bob un ohonom yn y grŵp ryw fath o ddealltwriaeth o'r argyfwng hinsawdd a'r problemau sy'n ein hwynebu, ond roedd dysgu am y ffeithiau a gwrando ar ddisgrifiadau tystion yn ddigon i'ch sobri. Roedd gweld yr effaith y mae defnydd dynol yn ei chael ar y blaned wedi'n gorfodi i ofyn rhai cwestiynau anghyfforddus i ni'n hunain.

Yn anffodus, doedd gennym  ddim pasys ar gyfer y Parth Glas, ond aethon ni i'r Parth Gwyrdd, lle'r oedd gan gorfforaethau a chwmnïau stondinau oedd yn sôn am eu hymrwymiadau a'r hyn roeddent yn ceisio'i wneud i helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.

Roedd yn ffordd dda o weld yr hyn sydd eisoes yn cael ei wneud a sut y gallem ei roi ar waith yn Abertawe.

Roedd un stondin yr ymwelon ni â hi'n ymwneud â'n defnydd o ddŵr, a dysgom pan fyddwch yn golchi'ch dwylo, dyw e' ddim yn gwneud gwahaniaeth p'un a ydych yn defnyddio dŵr oer neu dwym, bydd eich dwylo'n lân cyn belled â'ch bod yn defnyddio sebon. Allwch chi ddychmygu'r gostyngiad mewn allyriadau aelwydydd, pe baem i gyd yn newid yr un arfer hwn?

Roedd stondin arall yn cynnwys fferm fertigol, sydd wedi'i chynllunio fel y gallwch gynhyrchu llysiau a ffrwythau mewn unrhyw fath o amgylchedd, ac mae'r cyfan yn awtomataidd. Felly, croeswch eich bysedd nad ydym yn y pen draw yn dod yn fyd dystopaidd lle mae'r blaned gyfan yn troi'n anialwch ac mae'n rhaid i ni dyfu pob planhigyn y tu mewn, ond pe bai hynny'n digwydd, dyma enghraifft o'r mathau o atebion sy'n cael eu datblygu heddiw, i baratoi ar gyfer dyfodol 'y sefyllfa waethaf'.

Dyma fy nhystlythyr

Cyn i mi fynd i COP 26, roedd gen i syniad o sut mae gweithgarwch dynol o ran treuliant, yn effeithio'n negyddol ar yr hinsawdd.  Ond, doeddwn i ddim yn gwbl ymwybodol o faint mae ein hymddygiad yn effeithio ar yr amgylchedd a'n dyfodol, nid yn unig yn Hemisffer y Gogledd, ond ar raddfa fyd-eang.

Yn ystod COP26 dysgais fod ein gorddefnydd fel economi ddatblygedig yn effeithio'n uniongyrchol ar fywydau ym mhob cwr o'r byd, er enghraifft mae llawer o wledydd nad ydynt yn cyfrannu cymaint o allyriadau CO2 ag yr ydym ni, yn profi effaith lawn newid yn yr hinsawdd. Yn hanesyddol, rydym wedi cloddio'u hadnoddau a manteisio ar y poblogaethau brodorol. Rhaid i ni edrych ar ein hanes, cymryd cyfrifoldeb a rhoi rhywbeth yn ôl drwy ddod yn rhan o'r ateb.

O ganlyniad i fod yn rhan o COP26, rwyf wedi wynebu'r ffaith fy mod i'n bwyta gormod o gig ac wedi dod yn llysieuwr. Rwyf hefyd wedi addo rhoi'r gorau i brynu dillad newydd sbon, ac yn ceisio trwsio fy nillad yn hytrach na'u taflu, neu roi dillad diangen i siop elusen. Byddaf yn defnyddio cwmnïau cynaliadwy sy'n ystyriol o'r amgylchedd os oes angen i mi brynu eitemau newydd.

Dwi bellach yn gofyn i fy hun yn rheolaidd, beth allai ddigwydd os nad ydym yn gweithredu nawr, a pha gamau dwi'n bwriadu eu cymryd heddiw? Rwy'n credu bod angen i bob un ohonom fynd i'r afael â'n gordreuliant ein hunain, boed hwnnw'n gysylltiedig â'r diwydiant ffasiwn, y sector bwyd, ffermio neu'r sector ynni. Os byddwn ni i gyd yn gwneud newidiadau bach, gallwn gael effaith fawr."

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Victoria Thomson
Rhif Ffôn:
01792636992
Email project contact