Lleoliad:
Powys
Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£74086.00

1.    Cyflwyniad 

Yn dilyn adroddiad (2014) i gyflwr y Gymraeg yn y sector Awyr Agored yn ne Powys, roedd y Fenter Iaith wedi bod yn chwilio am ffynhonnell addas o gyllid ar gyfer prosiect yn y maes hwn. Roedd cais am arian grant y Gymraeg gan Lywodraeth Cymru wedi bod yn aflwyddiannus, felly yn 2015 cysylltodd y Fenter â Leader i archwilio posibiliadau. Ar y pryd, roedd grŵp o bobl yn arwain y prosiect, gan gynnwys cynrychiolwyr o'r Fenter Iaith, y Parc Cenedlaethol a busnesau Awyr Agored. Trefnwyd taith drwy Leader, i ymweld â phrosiect tebyg yng Nghonwy, lle'r oedd y Cynllun Datblygu Gwledig a Pharc Cenedlaethol Eryri wedi ariannu prosiect dros ddegawd i annog mwy o siaradwyr Cymraeg i weithio yn y sector Awyr Agored gyda chanlyniadau cadarnhaol dros ben. 

2.    Her 

Mae llawer iawn o weithgarwch awyr agored yn ein hardal leol, ond ychydig iawn o’r gweithgarwch hwnnw sy'n cael ei gynnig drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn aml, mewnfudwyr i'r ardal sy'n gweld y cyfleoedd i weithio a chynnal busnesau yn y sector. Yr her yw annog mwy o bobl ifanc lleol (ac yn enwedig siaradwyr Cymraeg) i ystyried gyrfa yn y sector, fel y gallant aros yn yr ardal a defnyddio eu sgiliau iaith. 

3.    Atebion 

Yr ateb i ni oedd sicrhau bod cyfleoedd i bobl ifanc a oedd yn medru'r iaith i fwynhau gweithgareddau awyr agored drwy gyfrwng y Gymraeg. Byddant yn gweld y gallant ddefnyddio eu sgiliau iaith mewn maes gwahanol (yr awyr agored) a bod cyfleoedd gwaith yn y sector. Ar yr un pryd, gallem weld bod cyfle i weithio gyda busnesau awyr agored i'w hannog i wneud mwy o ddefnydd o'r Gymraeg yn ddyddiol a gwerthfawrogi a chwilio am sgiliau iaith wrth gyflogi staff. Yn y pen draw, yn ddelfrydol, byddai modd 'cysylltu' pobl ifanc sy'n chwilio am swyddi gyda busnesau a oedd am recriwtio siaradwyr Cymraeg. 

4.    Budd 

Byddai'r sector Gweithgareddau Awyr Agored yn elwa o allu gwneud cais am fusnes ysgol ac unigolion a oedd am gael mynediad at weithgareddau yn y Gymraeg, yn enwedig yn y cymoedd, sydd ar hyn o bryd yn gorfod teithio drwy'r Bannau i gyrraedd cyrchfannau eraill yng Nghymru. Byddai'r gymuned leol yn elwa o gyfleoedd gwaith i bobl ifanc lleol, a byddent yn gallu cadw siaradwyr Cymraeg lleol ifanc yn eu cymunedau yn hytrach na’u bod yn gorfod symud i ffwrdd i chwilio am waith. Byddai cyfleoedd ychwanegol i blant a chymunedau lleol ddefnyddio eu Cymraeg. 

5.    Canlyniad 

Yn y diwedd, nid oedd modd ymgymryd â phrosiect o'r un cwmpas â phrosiect Eryri, oherwydd natur ieithyddol yr ardal a diffyg ffynonellau arian cyfatebol. Cyflogwyd swyddog gyda phrofiad helaeth yn y maes, a fu'n swyddog Ieuenctid am flynyddoedd lawer ac a oedd wedi ymgymryd â llawer o weithgareddau awyr agored, gyda diddordeb arbennig mewn beicio mynydd. Penderfynwyd canolbwyntio ar ei feysydd arbenigedd. Bu Huw, ein swyddog, yn gweithio'n galed iawn mewn ysgolion uwchradd gerllaw'r Parc Cenedlaethol (Aberhonddu, Crucywel, Maesydderwen, Gwernyfed a Llanfair-ym-Muallt.) Cynhaliodd nifer o brosiectau peilot i annog pobl ifanc i fwynhau'r awyr agored, gan gynnwys teithiau, gweithdai a sesiynau sgiliau.

Roedd yr adborth gan ysgolion, rhieni a phobl ifanc yn gadarnhaol iawn. Roedd gan Huw ffordd arbennig o integreiddio'r Gymraeg yn naturiol i sesiynau, gan annog disgyblion iaith gyntaf ac ail iaith i'w defnyddio. Ceisiodd Huw ymgysylltu â busnesau yn ystod ei gyfnod gwaith, ond ychydig iawn o gyfleoedd oedd i gyflawni amcanion y prosiect - roedd llawer o'r busnesau a oedd wedi ymateb i'r arolwg yn 2014 wedi newid staff ac ati ac felly nid oedd ganddynt yr un gallu i gynnig gweithgareddau yn y Gymraeg.

Yr hyn a amlygwyd yw pa mor fregus yw’r cynnig Cymraeg yn y sector yn lleol - mae colli un aelod o staff yn ddigon i ddod â gweithgaredd i ben. Mae hyn yn risg wrth i'n prosiect ddod i ben - mae Huw wedi sbarduno llawer iawn o weithgarwch awyr agored yn y Gymraeg yn yr ardal leol. Wrth i'r prosiect ddod i ben yn gynnar (roedd y swyddog wedi cael swydd arall wrth i'r prosiect ddod i ben), mae pryder y bydd hi'n rhy anodd i fusnesau ac ysgolion barhau â gweithgarwch o'r fath heb gefnogaeth y swyddog. Byddai prosiect hwy wedi ein galluogi i ffurfioli gweithgareddau awyr agored fel rhan annatod o raglenni ysgolion ac i sicrhau bod clybiau'n parhau gyda gwirfoddolwyr.
 

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Bethan Price
Rhif Ffôn:
07776 296267
Email project contact