Lleoliad:
Powys
Swm cyllido:
£7000.00

1.    Cyflwyniad a Heriau 

Yn ôl yn Hydref 2021, wedi i'r Hen Ysgol 1875 yn Nhalgarth achosi pryder cynyddol i drigolion oherwydd y perygl y gallai’r adeilad fynd yn adfail yn y tymor hir, lansiodd Grŵp Adfywio Talgarth a'r Cylch gais i asesu’r opsiynau o ran datblygu. Yr hen ysgol, a agorwyd ym 1875, oedd prif ysgol gynradd Talgarth am dros ganrif, ac, yn ogystal â bod yn adeilad amlwg nodedig yn Ardal Gadwraeth Talgarth, mae hefyd yn gysylltiedig â straeon personol llawer o deuluoedd lleol.
Y brif her oedd ymgysylltu â thrigolion lleol ynghylch dyfodol adeilad allweddol, sy'n eiddo i Gyngor Sir Powys ar hyn o bryd, ac a fu’n Ganolfan Ieuenctid a Chymunedol yn fwy diweddar nes iddo gau yn 2008. Roedd yr her yn fwy fyth oherwydd, yn ystod cyfnod cychwynnol y prosiect, roedd cyfyngiadau Covid -19 yn dal i gyfyngu ar weithgarwch.

2.    Atebion

Roedd yn amlwg i Bwyllgor y Grŵp Adfywio bod angen i ni ddefnyddio adnoddau allanol arbenigol, gyda sgiliau pensaernïol, cadwraeth ac ymgysylltu â'r gymuned er mwyn helpu i ganolbwyntio meddyliau yn y dref a'r ardal gyfagos o ran yr her a'r cyfle oedd ynghlwm wrth yr Ysgol oedd yn dyddio o 1875. Gwnaethom gais am gyllid Arwain ym mis Rhagfyr ac roeddem wrth ein bodd o gael cynnig cymorth o £7,000 i'n cynorthwyo i fwrw ymlaen â hyn.

3.    Budd

Un o'r manteision amlwg a ddaeth yn sgil ymgysylltu â'r cyhoedd yn ystod misoedd cynnar 2022 oedd sylweddoli bod pobl yn teimlo hoffter tuag at yr Hen Ysgol er gwaethaf ei chyflwr gwael, er eu bod hefyd, wrth reswm, yn pryderu rhywfaint am ei chyflwr presennol.
Cafodd Talgarth brofiad, fel llawer o gymunedau eraill, o nifer o faterion yn ymwneud â diffyg cysylltiad ac ynysigrwydd yn ystod pandemig Covid-19. Wrth i'n bywyd ddychwelyd i "normal newydd," rydym wedi nodi a chofnodi dymuniad amlwg pobl i gael mwy o gyfleoedd i ddod at ei gilydd, ar ôl misoedd lawer o gyfnodau clo, cyfarfodydd ar-lein a chyfyngiadau. Ar yr un pryd, o ganlyniad i'r prosiect, rydym wedi dod i'r casgliad bod y pandemig wedi arwain at sawl tuedd mewn agweddau cyhoeddus, a allai fod yn berthnasol i'r defnydd a wneir o'r Hen Ysgol yn y dyfodol.

4.    Canlyniadau

Mae'r canlyniadau dros dro a nodwyd yn cynnwys y canfyddiadau canlynol:

  • Mae cynnydd wedi bod mewn diddordeb gan bobl sy'n chwilio am ffyrdd o ddysgu sgiliau artistig ac ymarferol, gyda galw cynyddol am ddysgu wyneb yn wyneb. Mae'r manteision lles ynghlwm wrth ymgysylltu â'r celfyddydau drwy ddysgu â chymorth yn wybyddus ac mae darparwyr lleol, fel Coleg y Mynyddoedd Duon, ymhlith y rhai sy'n chwilio am leoliadau i ddarparu gweithgareddau creadigol yn ardal Talgarth. Mae byd y celfyddydau yn fywiog ledled rhanbarth y Mynyddoedd Duon ac mae llawer o ymarferwyr yn chwilio am le i weithio ac arddangos.
  • Mae newidiadau mewn arferion gwaith yn golygu bod galw cynyddol am gyfleusterau sy'n cefnogi gweithio o bell a hunangyflogaeth fel mannau gweithio hyblyg a rennir gyda band eang ffeibr optig cyflym iawn hefyd. Gall y mathau hyn o ddarpariaeth hybu cynhyrchiant, hwyluso rhwydweithio a chydweithio yn ogystal â meithrin llesiant. Gall hyn gynnig gweithle mwy cymdeithasol a chefnogol i'r ddwy ochr – rhywbeth sydd yn aml ar goll wrth i bobl weithio o bell.
  • Mae llety gwyliau hefyd yn gynhyrchydd incwm sylweddol posibl, er ei fod yn dymhorol. Fodd bynnag, gallai fod yn rhan o gynnig defnydd cymysg i gefnogi gweithgareddau cymunedol eraill yn yr Hen Ysgol.
     

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Cllr William Powell
Rhif Ffôn:
07703 112 113
Email project contact