Lleoliad:
Sir Benfro
Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£609549.00

Beth yw BRICS?  

Mae BRICS yn brosiect a fydd yn:

  • Gwella gwaith rheoli dŵr, maethynnau a chynefinoedd ar ffermydd
  • Lleihau lefel y maethynnau sy'n mynd i mewn i Ddyfrffordd y Ddau Gleddau 
  • Creu cynllun masnachu maethynnau
  • Cynnig potensial ar gyfer cyfleoedd i fuddsoddi yn Sir Benfro yn y dyfodol

Bydd BRICS yn cyflawni hyn drwy’r dulliau canlynol:

  • Rhoi cyngor, canllawiau a chymorth arbenigol i ffermwyr
  • Darparu cynlluniau cynghori sy'n canolbwyntio ar faethynnau (ar gyfer hyd at 30 o ffermydd)
  • Helpu i sicrhau cyllid ar gyfer gwaith mapio maethynnau yn y pridd mewn modd sydd wedi'i dargedu, ffermio manwl gywir a chreu gwlyptiroedd ar ffermydd, lle y bo'n briodol
  • Datblygu fframwaith ar gyfer creu menter sy'n gallu rhedeg cynllun masnachu sy'n seiliedig ar faethynnau sy'n gallu:
  • talu rheolwyr tir am fynd i’r afael â chamau sydd o fudd i'r amgylchedd naturiol y tu hwnt i'r gofyniad rheoleiddio a
  • sicrhau datblygu economaidd cynaliadwy a chyfleoedd buddsoddi yn y dyfodol

Pam ydym yn gwneud hyn?

Mae'r dŵr yn Nyfrffordd y Ddau Gleddau ac Ardal Cadwraeth Arbennig Sir Benfro Forol o'i chwmpas yn cynnwys gormod o nitrogen a ffosfforws. Mae hyn yn golygu ei fod yn methu â chyrraedd safonau ansawdd dŵr statudol ac mae'r gorfaethu yn bygwth bywyd gwyllt gwarchodedig pwysig a'u cynefinoedd.

Mae hefyd yn golygu bod y ddyfrffordd yn cael ei hystyried yn “llawn”, heb gapasiti i dderbyn unrhyw fewnbwn ychwanegol o faethynnau, sy'n rhwystr posib o ran unrhyw ddatblygiad yn y dyfodol.

Mae'r dull BRICS yn ymwneud ag atal llygredd rhag mynd i mewn i gyrsiau dŵr yn hytrach na dibynnu ar atebion ‘diwedd pibell’, fel trin dŵr, gan sicrhau manteision eraill i'r economi a'r amgylchedd. 

Mae BRICS yn edrych yn ehangach ar yr amgylchedd ac yn ystyried y cysylltiadau rhwng yr amgylchedd a'r bobl sy'n ei reoli.  Dyma enghraifft o Reoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy (SMNR). Mae meithrin gwytnwch y dalgylchoedd a'r ffordd y cânt eu rheoli yn golygu y byddant yn gallu gwrthsefyll effeithiau newid hinsawdd yn well a phwysau a galwadau cynyddol ar waith rheoli tir ac afonydd. 

Bydd y prosiect o fudd i ffermydd, yn economaidd yn ogystal ag yn amgylcheddol, gan greu diwylliant o arweinwyr busnes.

PDF icon

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Emma Taylor
Email project contact