Harneisio pŵer natur

Mae Ynys Môn, sydd â dros 220 milltir sgwâr o dirweddau naturiol heb eu difetha, yn hafan i fywyd gwyllt. Gyda digonedd o drychfilod, adar môr sy’n nythu, blodau gwyllt a llawer o rywogaethau eraill, mae gan yr ynys Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE).

Mae’r prosiect ynni llanw wedi cymryd degawd o waith cynllunio ac ymgynghori, gan bontio dwy rownd ddiwethaf y Rhaglen Datblygu Gwledig.

O dan y thema Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy, bu cyllid LEADER yn allweddol yng nghamau cychwynnol y prosiect ac fe’i defnyddiwyd i gefnogi cais i Ystadau’r Goron ar gyfer Parth Arddangos Gorllewin Ynys Môn yn 2013. Yn dilyn llwyddiant y cais, cafodd cyllid LEADER hefyd ei ddefnyddio i gynnal astudiaethau cychwynnol i fesur y cyfleoedd. Derbyniodd y prosiect gyfanswm o tua £100,000 o gymorth LEADER.

 

 

Anglesey Marine Energy