Lleoliad:
Sir Benfro
Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£8500.00

Crynodeb o’r Prosiect: 

Mae Amgueddfa ac Oriel Gelf Dinbych-y-Pysgod yn elusen a redir gan fwrdd o ymddiriedolwyr sy’n cyflogi curadur proffesiynol a chynorthwyydd, wedi’u cefnogi gan nifer o wirfoddolwyr hirdymor.

Mae’r amgueddfa yn berchen ar gasgliad sylweddol, gyda dim ond tua traean ohono’n cael ei arddangos ar hyn o bryd oherwydd diffyg lle. 

Gydag adolygiad o brydles yr adeilad ar y gorwel, a dibyniaeth ar grant cyllid gan yr awdurdod lleol, teimlai’r ymddiriedolwyr ei bod yn amserol i gynnal astudiaeth i weld a oedd eu syniadau ar gyfer dyfodol yr amgueddfa yn hyfyw, yn gynaliadwy ac yn eisiau.

Comisiynodd yr astudiaeth gwmpasu luniadau pensaer i greu cynlluniau amlinellol, yn ogystal ag ymchwil i’r farchnad a chynllun datblygu cynulleidfa, i gyd yn cyfrannu at gynllun datblygu mwy i ariannu’r amgueddfa yn gynaliadwy, cynyddu’r nifer o ymwelwyr a gwella’r adeiladau.          

Roedd yr adroddiad datblygu cynulleidfa yn cynnwys argymhellion i wella profiad ymwelwyr, creu mwy o gyfleoedd gwirfoddoli, a hyrwyddo a datblygu gweithgareddau a digwyddiadau ar gyfer cynulleidfaoedd newydd.  
 
Beth ddigwyddodd:

Yn sgil yr astudiaeth gwmpasu, sicrhaodd yr ymddiriedolwyr £25 mil gan Grant Gwella Sir Benfro CSB i gyflogi Swyddog Digwyddiadau ac Ymgysylltu Cymunedol yn llawn amser am flwyddyn, i hybu cefnogaeth ac ymgysylltiad cymunedol â’r amgueddfa a chryfhau’r sylfaen o wirfoddolwyr. 

Yn ogystal, gan fod yr astudiaeth wedi rhoi gweledigaeth gliriach a brwdfrydedd newydd iddynt, fe anogodd yr ymddiriedolwyr i gyflwyno datganiad o ddiddordeb i Gronfa Dreftadaeth y Loteri am gyllid i gyflogi rheolwr prosiect a gweithio tuag at greu amgueddfa flaenllaw fwy eiconig gyda chynnwys atyniadol. 
 
Gwersi a Ddysgwyd:

Mae proses ac adroddiadau’r astudiaeth gwmpasu wedi galluogi’r ymddiriedolwyr a’r staff i egluro a chrisialu eu gweledigaeth ar gyfer yr amgueddfa. Mae lluniadau’r pensaer wedi eu helpu i symud eu syniadau o restrddymuniadau i rywbeth sy’n awr yn ymddangos yn gyraeddadwy, gan ddod â’r ymddiriedolwyr at ei gilydd a symbylu eu gwaith.

Dysgodd yr ymddiriedolwyr hefyd fod angen iddynt wella cyfathrebu yn fewnol, ymhlith ymddiriedolwyr a staff, ac yn allanol gyda chyfeillion yr amgueddfa a chorff ehangach y cyfranddalwyr.

Mae’r profiad LEADER wedi annog yr amgueddfa i wneud cais am fwy o gyllid ac wedi rhoi’r hyder iddynt gredu y byddant yn llwyddiannus os byddant yn dangos brwdfrydedd dros eu prosiect ac yn personoleiddio eu ceisiadau am gyllid, gan ddod â’u syniadau yn fyw.

Mae’r ymddiriedolwyr a’r staff hefyd wedi dysgu gwerth a phwysigrwydd parhau i gael adborth gan ymwelwyr a’i gymryd i ystyriaeth wrth gynllunio. 

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Kathy Talbot
Rhif Ffôn:
01834 842809
Email project contact
Gwefan y prosiect:
http://www.tenbymuseum.org.uk