Lleoliad:
Gwynedd
Swm cyllido:
£25000.00

Beth ydi Ffiws?

Gofod Gwneud cydweithredol sydd wedi cael ei leoli yn 125 Stryd Fawr, Porthmadog ydi Ffiws. Mae’r gofod yn cynnwys amryw o wahanol offer uwch-dechnolegol yn ogystal â offer electroneg ac offer llaw.

Beth ydi bwriad y prosiect?

  • Creu cymuned o wneuthurwyr (“makers”) yn yr ardal
  • Rhoi mynediad i unrhyw un at offer uwch-dechnoleg
  • Annog creadigrwydd a dysgu sgiliau newydd
  • Y gobaith ydi y bydd y gymuned yn gallu perchnogi’r cynllun a’i gario ymlaen tu hwnt i’n prosiect peilot ni

Pa fath o offer sydd ar gael yn Ffiws?

  • Argraffwyr 3D
  • Peiriant Laser
  • Peiriant CNC
  • Gwasg Gwres (Heat Press)
  • Gwasg Myg (Mug Press)
  • Argraffwr Sublimation
  • Torrwr Vinyl
  • a mwy…

Pwy sydd yn cael defnyddio’r offer?

Mae’r gofod yn agored i unrhyw un dros 18 ac i blant rhwng 14 ac 18 gyda oedolyn cyfrifol. Mi fyddwn hefyd yn cynnal digwyddiadau arbennig ar gyfer plant o dan 14.

Mi fydd yn RHAID mynychu Sesiwn Cynefino (Induction) cyn defnyddio unrhyw ddarn o offer yn y gofod.

 

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Rhys Gwilym
Rhif Ffôn:
01766514057
Email project contact