Lleoliad:
Sir Benfro
Swm cyllido:
£77000.00

Disgrifiad o'r Prosiect:

Bydd y prosiect hwn yn treialu rhaglen 2 flynedd o benodi swyddog i weithio gyda Chynghorau Tref a Chynghorau Chymuned i adnabod Hyrwyddwyr Eco yn eu hardal. Byddai lledaenu deunyddiau hyfforddi a darparu hyfforddiant i’r Hyrwyddwyr Eco yn sicrhau y byddai yna dîm mawr o unigolion gyda’r wybodaeth i gynghori trigolion lleol. Mae’r prosiect hwn yn ddatrysiad arloesol i fodloni targedau ailgylchu Sir Benfro, a gyda chefnogaeth y posibilrwydd o ddarparu gwasanaethau casglu ar ochr y ffordd newydd ar gyfer y sir.

Canlyniadau’r Prosiect:

Yn ogystal â chyflawni ei allbynnau a recriwtio 259 o wirfoddolwyr, arweiniodd y prosiect hefyd at nifer o ganlyniadau anfwriadol eraill, partneriaethau a gweithgareddau newydd fel cynlluniau casglu sbwriel, mannau llenwi dŵr, cysylltiadau â'r rhwydwaith oergelloedd cymunedol ac ymgyrchoedd di-blastig. Defnyddiodd y prosiect adnoddau ar-lein i ymgysylltu â thrigolion mewn ffyrdd newydd ac arloesol fel defnyddio YouTube a chreu Eco-Lwybrau. Profodd y dull hwn a symud i ffwrdd o gyfathrebu papur traddodiadol hyd yn oed yn fwy defnyddiol yn ystod y pandemig. Derbyniodd y prosiect gryn dipyn o sylw positif yn y cyfryngau a derbyniodd y wobr ‘Arloesedd’ orau yn Sir Benfro ar Pure West Radio. Wrth symud ymlaen, bydd rhywfaint o'r gwaith sydd wedi'i wneud fel rhan o'r prosiect hwn yn cael ei ddatblygu gan y tîm o Ymgynghorwyr Amgylcheddol Lleol. Bydd cyswllt o’r newydd hefyd gyda Cadw Cymru’n Daclus i annog a chefnogi’r gwaith o gasglu sbwriel yn y sir. Mae tîm cyfathrebu Cyngor Sir Penfro wedi gwerthuso arddull unigryw y negeseuon/fideos etc. a gynhyrchwyd fel rhan o'r prosiect hwn a bydd yn ymgorffori'r dulliau cyfathrebu hyn wrth symud ymlaen.

Gwersi a Ddysgwyd:

Bu’n rhaid i’r prosiect addasu’n barhaus, yn enwedig yn ystod y pandemig. Yn sgil Covid, bu’n rhaid i’r prosiect wneud newidiadau, serch hynny, er nad oedd grwpiau'n cael mynd allan, gwelodd y prosiect nifer sylweddol o unigolion a theuluoedd a oedd yn dymuno clirio eu hardaloedd cyfagos. Roedd y prosiect hefyd yn gallu cynnal momentwm trwy gyfryngau cymdeithasol a thechnegau cyfathrebu effeithiol.

“Mae’r cynllun yn gyffredinol wedi bod yn llwyddiant ysgubol ac wedi gweld Sir Benfro yn codi i frig y siartiau yng Nghymru o ran ei ffigwr ailgylchu (19/20) gyda swm anferthol o 71.65% -  mae’r prosiect Pencampwr Eco wedi cael ei gydnabod fel cyfrannwr allweddol at hyn.”
 

Cick yma i weld y stori.

 

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Richard Brown
Rhif Ffôn:
01437 775828
Email project contact
Gwefan y prosiect:
http://www.pembrokeshire.gov.uk