- Lleoliad:
-
Sir Benfro
- Swm cyllido:
-
£155,218.00
Disgrifiad o'r Prosiect:
Bydd adeiladu Gallu i Ofalu, Sir Benfro yn defnyddio methodoleg Catalyddion Cymunedol i gefnogi’r gwaith o ddatblygu rhwydwaith o ddarparwyr-meicro a mentrau cymdeithasol i ddarparu amrywiaeth o wasanaethau gofal, cymorth a lles lleol, hyblyg, o’r safon uchaf, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Bydd yn rhoi gwir ddewis a rheolaeth i bobl dros eu gofal.
Bydd y prosiect 2-flynedd yn cefnogi sefydlu mentrau-meicro lleol neu fentrau cymdeithasol lleol i gynnig amrywiaeth o wasanaethau gofal, cymorth a lles i alluogi pobl fyw’n annibynnol am gyfnod hwy yn eu cartrefi, ac yn eu cymunedau eu hunain.
Bydd y prosiect hefyd yn cyd-weithio ag egin-fentrau cymdeithasol neu fentrau cymdeithasol sefydledig, sydd eisiau gwella eu llywodraethu a’u harferion busnes a/neu ddatblygu gwasanaethau newydd i fodloni gofynion a nodwyd. Yn ogystal, bydd y prosiect yn helpu comisiynwyr ac ymarferwyr gwasanaethau i ddeall beth sy’n rhaid newid (diwylliant, systemau a llwybrau). Yna, bydd yn ei helpu i wireddu’r newidiadau hynny er mwyn gweddnewid y modd y darperir gofal cartref a gwasanaethau cymorth yn Sir Benfro.
Canlyniadau’r Prosiect:
- 29 o ficro-fentrau yn rhan o’r cyfeiriadur- planed.org.uk/catalysts-for-care-directory-of-care-and-support-services-in-pembrokeshire/
- Crewyd rhwydwaith cymorth ymhlith cyfoedion
- Yn ystod cyfnod o 6 mis, roedd 20 o ficro-fentrau wedi:
- Cefnogi 174 o bobl
- Wedi darparu 12,427 o oriau o ofal neu gymorth…
- Neu 479 awr yr wythnos ar gyfartaledd
Am fwy o wybodaeth, gweler adroddiad o effaith Catalydd Gofal: https://drive.google.com/file/d/1em21VOK74D7-zxcdkNHW3kSH04O7U1TQ/view?usp=sharing
‘’ Ar hyn o bryd, rydyn ni’n archwilio opsiynau cyllido i ehangu’r gefnogaeth ar gyfer micro-fentrau i Geredigion a Sir Gâr yn ogystal â Sir Benfro.”
Gwersi a Ddysgwyd:
- Mae gan bobl leol ddiddordeb mewn creu micro-fenter
- Ar ôl iddyn nhw wneud hynny, maen nhw’n cael boddhad mawr o weithio fel hyn
- Pobl yn gwerthfawrogi bod yn rhan o rwydwaith o gyfoedion
- Mae galw a marchnad gref a chynyddol am yr hyn maen nhw’n ei gynnig
- Mae pobl, eu teuluoedd a gweithwyr proffesiynol wir yn gwerthfawrogi’r gwasanaethau sy’n cael eu cynnig gan ficro-fentrau yn fawr.
Mwy o wybodaeth am y prosiect:
- Enw:
- Sue Leonard
- Cyfeiriad e-bost:
- sue.leonard@pavs.org.uk
- Email project contact