Lleoliad:
Gwynedd
Swm cyllido:
£818,283.00

Mae prosiect cymunedol yn ardal Machynlleth wedi’i gydnabod fel y gorau o’i fath yng Nghymru. 

Menter cydweithrediadol yw Pennal 2050 i wella’r ardal er budd natur a thrigolion. Gwobrwyd yn yr adran Tirwedd, Natur a Choedwigaeth yn nigwyddiad ‘Dathlu Cymru Wledig’ yn Llanelwedd, gynhaliwyd gan Rwydwaith Cymru Wledig i nodi 20 mlynedd o nawdd Ewropeaidd. 

Mae’r prosiect, gefnogir gan Gynllun Rheoli Cynaliadwy, wedi galluogi i bobl leol gynllunio gweithgareddau i gwrdd ȃ sialensau ar lefel tirwedd.   Yn y broses o wella’r ardal ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol, rhannwyd ymarfer dda mewn cydweithrediad, gwybodaeth arbenigol, syniadau, technoleg a gwyddoniaeth.

Partneriaeth Pennal, grŵp o 40 o bartneriaid ffermio blaengar, yw’r corff sy’n arwain Pennal 2050 – prosiect cydweithredol pum mlynedd sy’n ymestyn o Bontarddyfi bron i Aberdyfi – sydd ȃ chefnogaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, Parc Cenedlaethol Eryri a Chyngor Gwynedd ynghyd ȃ chyrff lleol fel Cyngor Cymuned Pennal, Cymdeithas Pysgodfa’r Ddyfi, ysgolion a busnesau lleol. 

Teimla James Brunton, Cadeirydd Pwyllgor Llywio Pennal 2050 yn falch iawn o glywed y newydd:  

“Mae’n wych bod ein hymdrechion wedi cael cydnabyddiaeth genedlaethol drwy’r wobr hon.  Mae llawer o waith caled yn cael ei wneud i ddatblygu gwahanol elfennau ein rhaglen megis y cynllun ‘slo-flo’ fydd yn cynnwys 60 o ymyriadau ar ffosydd, argaeau sy’n gollwng a sbwriel coed, wedi’u gosod yn y goedwig ac ardaloedd amaethyddol i annog dŵr i lifo ar dir ymylol ac felly’n creu cynefinoedd newydd allai leihau’r llif i’r Ddyfi islaw”.

Mae’r prosiect amgylcheddol yn cydweithio gyda nifer o gyweithiau arloesol mewn prifysgolion rhyngwladol sy’n cynnwys gwaith ymchwil ar synhwyryddion a reolir o bellder, amsugniad glaw gan ganopi’r goedwig a mapio rhywiogaethau dan fygythiad. Daeth ymwelwyr o Brydain a thu hwnt i weld Pennal 2050, gan gynnwys cynrychiolydd o lywodraeth Gogledd India oedd yn awyddus i weld drosto’i hunan sut oedd menter gymunedol yn gweithio.  

Bellach mae gan drigolion ac ymwelwyr ȃ Phennal rywbeth arbennig yn y pentref, diolch i’r prosiect -  wedi’i gyllido gan Raglen Datblygu Cymru Wledig 2014-2020, rhan o Raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru, ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Mae’r panel dehongliad gweledol o’r tirwedd wedi’i ddadorchuddio gyda map tirwedd hanner cylch wedi’i gefnogi gan brosiect Pennal 2050 a’r gwaith cynllunio a gosod wedi’i drefnu gan Gyngor Cymuned Pennal.

Diolchodd y Cadeirydd, Meirion Roberts, i ddylunwyr y panel ac i brosiect Pennal 2050 am gyfle i ddarpau “ychwanegiad deniadol sydd eisioes yn denu llawer o ymwelwyr i’w astudio a deall yn well ein tirwedd naturiol a hanesyddol, ei bioamrywiaeth a’r adeiladu pwysig geir ynddo”. 

Ymunodd Ysgol Pennal ȃ’r dadorchuddiad ac maent wedi cymryd rhan ym mhrosiect Pennal 2050 sydd wedi canolbwyntio’n arbennig ar ‘STEM’ (‘science, technology, engineering and maths’).  Maent yn cynorthwyo gyda phlannu coed, cofnodi’r hinsawdd gyda gorsaf dywydd newydd ar dir yr ysgol a phrosiect Dinesydd Gwyddoniaeth Afon a digwyddiadau monitro pryfaid.  Yna, maent – ynghyd ag Ysgol Corris – y mis hwn, wedi ymweld ȃ Phenmaen isa, fferm ordro leol – diolch i Hugh ac Eluned Besent – i ddeall yn well o ble ddaw eu bwyd.   Mae ffermwyr y Grŵp hefyd wedi ychwnaegu at eu gwybodaeth am natur gyda gweithdai ar ddulliau ffermio adfywiol, yn arbennig mewn cysylltiad ȃ iechyd pridd a bioamrywiaeth.

Rhys Parry yw Cadeirydd Partneriaeth Pennal ac mae’n edrych ymlaen i gamau nesaf y prosiect:

“Mae gennym lawer i’w wneud o hyd i addasu at newid hinsawdd a’r sialensau yr ydym yn debygol o’i wynebu yn y dyfodol, gan gynnwys cynnal ein diwylliant, treftadaeth ac iaith.  Rydym hefyd eisiau sicrhau bod ein plant yn meddu’r sgiliau a’r wybodaeth orau i fuddsoddi mewn swyddi a busnesau fydd o fudd tymor hir i’r rhan hon o Gymru wledig”.

Cewch fwy o wybodaeth am y prosiect drwy ymweld ȃ  www.croesopennal.cymru  neu www.visitpennal.wales

 

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Heather Mitchell
Email project contact