Cafodd dros 360 o gynrychiolwyr groeso dros y digwyddid deuddydd, a bu mwy na 30 o brosiectau yn arddangos eu gwaith.

Cynhaliwyd trafodaethau panel am bynciau sy’n bwysig i Gymru yn ystod y ddau ddiwrnod hefyd, yn ogystal â sioe sgwrsio gyda rhai o’r bobl a oedd wedi cael budd o’r astudiaethau achos. Buont yn egluro’r hyn y mae'r cyllid wedi'i olygu iddyn nhw ac yn sôn am sut gwnaethon nhw lwyddo.

I gloi’r diwrnod cyntaf, cynhaliodd Gwir Flas ddigwyddiad i ddathlu cynnyrch bwyd a diod o Gymru sydd wedi cael cymorth dan y Rhaglen.

Pen llanw’r Dathliadau oedd Gwobrau Rhwydwaith Gwledig Cymru, pan ddyfarnwyd gwobrau dan bob un o’r themâu'r i’r 4 prosiect sy’n cyfleu ethos y rhaglen gyllido orau.

Mae'r fideo byr isod yn dangos rhai o uchafbwyntiau'r digwyddiad: