30mlwyddiant y Faner Las a Glanhau'r Arfordir

Mae 30mlwyddiant y Faner Las a hithau'n Flwyddyn y Môr, yn gyfle i arddangos ansawdd arfordir Cymru a'i draethau hardd. O dan arweiniad Cadwch Gymru'n Daclus a Phartneriaeth y Moroedd Glas, bydd y prosiect yn ddathliad cenedlaethol fydd yn cyd-fynd â Ras Cefnfor Volvo  ym mis Mehefin 2018, gan arddangos ansawdd arfordir Cymru a llwyddiant y rhaglen i gael mwy o Faneri Glas y filltir yng Nghymru nag yn unrhyw ran arall o Brydain. 

Cynhelir dathliadau lleol ledled Cymru i hyrwyddo'n traethau Baner Las hardd trwy gydweithrediad darparwyr atyniadau lleol, ymgyrch ledled Cymru i lanhau traethau trwy weithredu cymunedol, digwyddiadau addysgol i daclo sbwriel y môr a chynhyrchu a dosbarthu deunydd digidol ar gyfer busnesau twristiaeth i wneud y gorau o'r cyfleoedd i hyrwyddo'r Faner Las a Gwobrau'r Arfordir Gwyrdd.  Darperir rhagor o gymorth trwy gyfres o ddigwyddiadau ar gyfer busnesau lleol a Phartneriaethau Cyrchfannau. 


 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£70,810
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa Ymgysylltu Twristiaeth Ranbarthol (RTEF)
Ardal:
Caerdydd
Cwblhau:

Cyswllt:

Enw:
Richard Phipps
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts