Academi’r Dyfodol

Bydd prosiect peilot Academi’r Dyfodol gan Goleg Ceredigion yn treialu gweithdai mewn nifer o feysydd sector â blaenoriaeth i bobl ifanc. Y nod yw datblygu arloesedd a chreadigrwydd, hyrwyddo entrepreneuriaeth, a meithrin hyder a gwytnwch.

Y bwriad yw cyflwyno dwy set o weithdai (Sector Bwyd - Gweithdy Arlwyo, Sector Celfyddydau Perfformio - Gweithdy Perfformio, Sector Celf - Gweithdy Celf a Sector Ffilm neu Graffeg - gweithdy cyfryngau) dros gyfnod o 8 wythnos ar draws 3 maes sector. Bydd y set gyntaf o weithdai wedi'u hanelu at garfan o ddysgwyr ysgol 14-16 oed heb unrhyw lwybr gyrfa benodol mewn golwg. Bydd yr ail set o weithdai wedi'u hanelu at garfan o ddysgwyr 16+ oed sydd wedi ymddieithrio o ddysgu a chyflogaeth.

Yn ogystal â'r gweithdai ymarferol, mae'r prosiect yn cynnig dod â'r dysgwyr o bob gweithdy ynghyd ar gyfer cyflwyniadau byr, ar ffurf 'Ted Talks' gan Entrepreneuriaid sefydledig yn ogystal â chyflwyniad gan Yrfaoedd Cymru ar adnoddau sydd ar gael i gynorthwyo yn gwneud dewisiadau gyrfa wybodus.
 

 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£51,107
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Ceredigion
Cwblhau:
Thema:
2
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Meleri Jenkins
Rhif Ffôn:
01545 572063
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts