Amaethyddiaeth â Chymorth y Gymuned (CSA) Big Meadow

Cynllun Amaethyddiaeth â Chymorth y Gymuned (CSA) arloesol (CSA Big Meadow) wedi'i gyfuno â rhaglen breswyl (Surf N Turf) sy'n cynnwys cymunedau gwledig ar draws Gŵyr ac sy'n darparu blychau llysiau lleol di-blastig yn uniongyrchol i 50 o gartrefi.

Mae mewn ardal wledig yn Llangynydd, Gŵyr, lle mae mynediad cyfyngedig i siopau a diffyg opsiynau o ran dewis bwyd lleol nad yw wedi'i becynnu. Bydd y prosiect yn creu cynllun cynhyrchu bwyd cyffrous a chynaliadwy gyda chyfleoedd gwirfoddoli cyson a chymaint o gyfranogaeth gymunedol â phosib. Bydd addysg a defnyddio'r lles cadarnhaol a'r hunanddatblygiad a all ddatblygu o ganlyniad i weithio ar y tir yn ffocws ar gyfer ein gwaith gyda gwirfoddolwyr a grwpiau.

Bydd Surf N Turf yn dod â grwpiau o bob rhan o Gymru a'r DU i brofi'r prosiect CSA ac i gymryd rhan yn y gweithgareddau y gellir eu cynnig yn ardal Gŵyr, e.e. caiacio, dringo. Gall treulio amser yn yr awyr agored a bod yn actif mewn amgylchedd naturiol gael effaith go iawn ac arwyddocaol ar fywydau pobl, ac mae cyflwyno'r gweithgareddau hyn yn unol â strategaethau iechyd a lles Llywodraeth Cymru. Ni fydd Surf N Turf yn brosiect sy'n creu refeniw a chaiff ei ariannu trwy gyllid allanol wedi'i sicrhau naill ai gan y grwpiau cymunedol rydym yn gweithio gyda nhw neu gan Big Meadow.

 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£30,000
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Abertawe
Cwblhau:
Thema:
2
Mesur:
19.2
Big Meadow CSA (Community Supported Agriculture)

Cyswllt:

Enw:
Helen Grey
Rhif Ffôn:
01792 636992
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts