Adfywio ac ehangu'r pentref modelau ac ychwanegu gwell amwynderau.
Mae'r perchenogion newydd wedi meithrin cydberthnasau â pherchenogion pentrefi modelau eraill yn y DU ac yn cyfnewid gwybodaeth, syniadau a thechnegau.
Felly, nod y prosiect yw ailagor y pentref modelau gan gynnig darpariaeth well yn cynnwys modelau newydd, modelau wedi'u trwsio a modelau wedi'u diweddaru, caffi o ansawdd a gweithgareddau newydd i deuluoedd. Bydd y prosiect yn cynnwys gwaith tirlunio a gwaith i ailgyflwyno'r modelau, ac agor y caffi gan gynnig cyfleusterau ystafell de. Bydd y caffi ar agor i bawb, nid dim ond i'r rhai sy'n talu i ymweld â'r atyniad.
Caiff yr ardaloedd picnic a'r ardaloedd chwarae eu gwella drwy greu drysni newydd i blant, gemau awyr agored, offer chwarae, golff gwirion a seddau ychwanegol, gwaith tirlunio a llwybrau cerdded.
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
£40,000
- Ffynhonnell cyllid:
-
Cronfa Fusnes Micro Bychan (MSBF)
- Ardal:
-
Ynys Môn
- Cwblhau:
-
Cyswllt:
- Enw:
- Nick Bowler
- Cyfeiriad e-bost:
- angleseymodelvillage@gmail.com
- Email project contact
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts