Byw a Bod Perfformio

Bydd y prosiect hwn yn gweithio gyda phobl ifanc i gyflwyno theatr stryd mewn atyniadau a lleoliadau twristiaeth poblogaidd yng Ngwynedd ac Ynys Mn. Maer prosiect yn adeiladu ar brosiect Byw a Bod (Perfformio) a gyflwynwyd gan Arloesi Gwynedd Wledig yn 2016. Ceir manylion am y prosiect yn adran 6. Maer prosiect yn ceisio treialu dulliau newydd o gyflwyno iaith a diwylliant i ymwelwyr yng Ngwynedd ac Ynys Mn drwy berfformiadau stryd. Bydd yn cael ei gyflenwi drwy weithio gyda phobl ifanc rhwng 14 a 25 oed.

Mae twristiaeth yn gyflogwr mawr ym Mn a Gwynedd ac maen cyfrannun sylweddol at yr economi. Fodd bynnag, anaml y caiff iaith a diwylliant y rhanbarth lwyfan o fewn y diwydiant gan nad oes iddynt unrhyw werth economaidd canfyddedig. Mae hyn yn cyfateb i amcan a nodwyd yn SDLL Mn a Gwynedd o ychwanegu gwerth at iaith a diwylliant. Maer prosiect hefyd yn ategu ymgyrch Croeso Cymru Blwyddyn y Chwedlau" syn rhedeg drwy gydol 2017. 

 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£14,800
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Prosiectau Cydweithredu Cymru
Cwblhau:
Thema:
1
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Rachel Roberts
Rhif Ffôn:
01766 514057
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts