Carnifal y Môr

Carnifal y Môr fydd uchafbwynt yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd ac yn ddathliad cenedlaethol o Flwyddyn y Môr ym Mae Caerdydd yn 2018. Caiff yr artist, Megan Broadmeadow, ei chomisiynu i weithio gyda phobl Butetown a Grangetown i greu gwaith gweledol fydd wedi cael ei ysbrydoli gan hanes, profiad a diwylliant eu cymunedau.

Caiff y canwr a chyfansoddwr, Gruff Rhys, ei gomisiynu i greu'r elfen gerddorol gan ddefnyddio alawon traddodiadol Cymreig sydd wedi teithio ar draws y môr i wledydd eraill, wedi ymgartrefu yno ac sydd nawr yn dychwelydd i Gymru wedi'i hadfywio.

Bydd yr elfennau hyn yn ffurfio rhan o gyngerdd agoriadol yr Eisteddfod 'Hwn yw fy Mrawd' yng Nghanolfan y Mileniwm ar 3 Awst gan arwain y gynulleidfa mewn gorymdaith i le tra'n gwylio ac yn profi'r digwyddiad uwchlaw'r dŵr. Caiff y tafluniad ei gynnal bob nos yn ystod yr Eisteddfod, gan ddenu cynulleidfa fwy bob tro. 
 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£69,300
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa Arloesi Cynnyrch Twristiaeth (TPIF)
Ardal:
Caerdydd
Cwblhau:

Cyswllt:

Enw:
Robyn Tomos
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts