Cnoi Cil Cymunedol (Community Food for Thought) – JIG-SO

Gwasanaethau allgymorth i daclo tlodi plant a thlodi bwyd mewn gwaith. Bydd y prosiect yn cyflwyno gwasanaeth cegin gymorth wledig ar gyfer 4 ardal brawf yng Ngogledd Penfro ac yn caniatáu i nifer fawr o rieni a theidiau a neiniau i gael mynediad i gefnogaeth ar gyfer cynhwysion bwyd teuluol a gwasanaeth hyfforddi.

Bydd y fenter Cnoi Cil Cymunedol yn profi'r prosiect mewn pedair cymuned wledig, sef Llandudoch, Boncath, Cilgerran a Hermon, yn defnyddio neuaddau cymuned lleol fel lleoliadau a phartneriaid posibl i gefnogi'r prosiect mewn ymgais i daclo'r heriau uchod.  Y nod yw cynnal 2 sesiwn bob mis ym mhob cymuned ac ymgysylltu gyda 12 o deuluoedd ym mhob lleoliad yn ystod y 15 mis. Bydd y sesiynau yn ffocysu ar Dlodi Bwyd a Gwastraff Bwyd, Ffordd o Fyw Iach a Gweithgareddau Rhwng Cenedlaethau.
 
Bydd y prosiect yn gweithio gyda phob cenhedlaeth yn y teulu i wella iechyd a llesiant emosiynol trwy annog bwyta a ffordd o fyw iach; meithrin perthnasau positif ac uchafu incwm gan leihau straen a phryder y teuluoedd hynny sy'n byw mewn tlodi gwledig.  A thrwy hynny leihau ynysu a delio ag anghenion lleol.

 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£40,195
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Sir Benfro
Cwblhau:
Thema:
3
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Buddig Meredith
Rhif Ffôn:
01239 615922
Email project contact
Gwefan y prosiect:
http://www.jigso.wales

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts