Coleg Llesiant Symudol

Y Coleg Llesiant Symudol: Yn ystod ein gwaith cynghori, fe sylweddolom y byddai nifer o bobl yn elwa o gyrsiau hyfforddi cymunedol i'w helpu i ddatblygu sgiliau ymdopi i ddelio gyda materion sy'n codi mewn bywyd, yn arbennig y rhai gyda theuluoedd ifanc a'r rhai ar yr ymylon. Rydym eisiau gwella ymwybyddiaeth a mynediad i'n gwasanaethau cynghori a datblygu Meddygfa Llesiant yn cynnwys apwyntiadau byr heb gost a drefnir o flaen llaw ac/neu sesiynau galw i mewn ar draws y sir. Isod ceir amlinelliad o'n cyfnod prosiect cwmpasu a chyfnodau dilynol yr hoffem gynnal mewn neuaddau pentref ar draws 4 ardal Sir Benfro - Gogledd, De, Dwyrain a Gorllewin, ond ni allwn wneud hyn heb gyllid.

Rydym yn ymwybodol o'r ffaith y gallai natur wledig Sir Benfro a diffyg trafnidiaeth gyhoeddus fod yn rhwystr i nifer o bobl a hoffai fynychu'r cwrs yma fel arall. Felly yn 2017, n ogystal â chynnig y cwrs yn Arberth, rydym eisiau dechrau ymestyn hyn i fod yn wasanaeth symudol sy'n gallu gweithredu o leoliadau eraill os oes angen. Yn gyntaf bydd y rhain yn Gyrsiau Cymunedol mewn Neuaddau Cymuned, ond hoffem hefyd ddatblygu Cyrsiau Sefydliadol mewn gweithleoedd yn y dyfodol. Bydd y gwasanaeth symudol hefyd yn cynnig sesiynau cynghori galw i mewn byr yn yr un lleoliadau ag y darperir y cyrsiau. 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£10,236
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Sir Benfro
Cwblhau:
Thema:
3
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Linda Edwards
Rhif Ffôn:
01834 860330
Email project contact
Gwefan y prosiect:
http://www.adleriansocietywales.org.uk

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts