Cymunedau Tosturiol

Mae Cymuned Dosturiol yn gymuned syn gyfforddus yn trafod y materion syn codi o heneiddio a salwch ac maen ddull gweithredol tuag at ddatblygu cymunedol. Maen cynnwys dinasyddion yn eu gofal diwedd oes eu hunain, yn ymdrin phryderon ac yn cynnig datrysiadau. Yn y broses, gall hyn newid amgylcheddau, diwylliannau, ymddygiad ac agweddau cymdeithasol tuag at brofiadau diwedd oes a hunanofal. Mae potensial i leihaur pwysau sylweddol syn wynebur gwasanaeth Iechyd Statudol, y Gwasanaethau Cymdeithasol ar Trydydd sector. Bydd dinasyddion yn wybodus ac yn gallu cefnogi ei gilydd i feddwl am, trafod ac ysgrifennu eu cynlluniau gofal ar gyfer y dyfodol. Mae cynllunio ar gyfer ein hanghenion gofal yn y dyfodol yn golygu siarad am farwolaeth, marw, gofalu a galar ac maer rhain yn bynciau nad ywr boblogaeth gyffredinol yn teimlon gyfforddus yn eu trafod. Yn ogystal, mae yna ddiffyg cymorth wedii hwyluso i alluogi unigolion, teuluoedd a grwpiau i siarad am y materion hyn gydai gilydd ac i gymryd rheolaeth a chyfrifoldeb am eu gofal iechyd eu hunain yn y dyfodol.

"

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£14,909
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Prosiectau Cydweithredu Cymru
Cwblhau:
Thema:
3
Mesur:
19.3

Cyswllt:

Enw:
Luke Conlon
Rhif Ffôn:
01437 532715
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts