Cymunedau Trydan

Y cam cyntaf mewn ymgais i wella effeithlonrwydd adeiladau cymunedol a chodi ymwybyddiaeth ynghylch y newid yn yr hinsawdd ywr prosiect hwn. Nodau: (i) Meincnodi defnydd trydan mewn hyd at 15 o adeiladau cymunedol ar draws Sir y Fflint; (ii) Addysgu rheolwyr yr adeiladau syn cymryd rhan ynghylch y patrymau defnyddio, a monitro a yw hyn yn arwain at ostyngiad mewn defnydd a chostau cysylltiedig. Yna, byddwn yn cydweithio r grwpiau i gael Archwiliadau Effeithlonrwydd Adnoddau Cymru or adeiladau. Maer archwiliadau hyn yn nodi ffyrdd o arbed ynni a dr. Hefyd, byddwn yn helpu 5 adeilad phaneli solar ffotofoltaig i fonitro patrymau mewnbwn ac allforio. Yna, byddwn yn cydweithio r adeiladau hyn i newid arferion er mwyn gwneud y defnydd gorau o ynni adnewyddadwy a gynhyrchir ar y safle, h.y. twymo dr yn ystod y cyfnodau pan gynhyrchir y mwyaf o ynni. Yn olaf, byddwn yn cydweithio r grwpiau i gael cyllid er mwyn gweithredu unrhyw newidiadau. Ymchwilir i ffynonellau megis y Gronfa Datblygu Cymunedau Gwledig a chyllid y Loteri. Gellid datblygu prosiectau ynni adnewyddadwy ac effeithlonrwydd ynni cymunedol newydd o ganlyniad ir prosiect.

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£2,397
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Prosiectau Cydweithredu Cymru
Cwblhau:
Thema:
4
Mesur:
19.2
Electric Communities

Cyswllt:

Enw:
Silas Jones
Rhif Ffôn:
01490 340500
Email project contact
Gwefan y prosiect:
http://www.cadwynclwyd.co.uk

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts