Cysylltu i Lesiant

Datblygwyd Rhaglen Cysylltu i Lesiant o ganlyniad i argyfwng COVID 19. Prif nod y cynllun yw cynorthwyo pobl sydd yn agored i niwed ac sydd yn teimlo eu bod yn ynysig / neu yn wael eu hiechyd neu’n dioddef caledu i gyflawni Llesiant.  Mae Cydlynydd Gwirfoddol yn recriwtio gwirfoddolwyr cymunedol er mwyn cynorthwyo â chludo pobl i’r Ganolfan, lle y mae hynny’n addas a darparu gwasanaethau llesiant rhithiol. Hefyd, gan fod nifer o bobl wedi dioddef gostyngiad yn eu hincwm, bydd y Cydlynydd Gwirfoddol yn cadw trosolwg ar bantri cymunedol a fydd yn ymweld â wardiau gwledig gan ddod â bwyd FareShare i aelodau ynysig o’r gymuned a’u cynorthwyo i gynnal diet iach.

Mae’r prosiect hwn yn cynnal llesiant trwy sefydlu sylfaen o wirfoddolwyr a chynorthwywyr all, pan fydd cyfyngiadau COVID yn caniatau hynny, ddod â hwy i’r Ganolfan Llesiant yn Gellideg a gweithredu pantri symudol mewn wardiau gwledig.      

Mae pob gwirfoddolwr yn destun archwiliad sgiliau er mwyn pennu eu gofynion hyfforddi. Bydd pob gwirfoddolwr yn derbyn gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, yn cael eu hyfforddi i gynorthwyo plant ac oedolion sydd yn agored i niwed  ac yn derbyn gwersi sgiliau gyrru ychwanegol lle y bydd hynny’n berthnasol. Gwobrwyir gwirfoddolwyr â chredydau bancio amser.

Gall darpar ddefnyddwyr y cynllun Cysylltu i Lesiant atgyfeirio eu hunain drwy gysylltu â Grŵp Sefydliad Gellideg neu gallant gael eu hatgyfeirio drwy weithwyr cymdeithasol neu gan ymarferwyr iechyd neu’r sector wirfoddol.  Heb raglen Cysylltu i Lesiant, ni fyddai preswylwyr sy’n teimlo’n ynysig ac mewn iechyd gwael yn gallu cyrchu’r gwasanaethau newydd sydd ar gael yng Nghanolfan Lesiant Gellideg nac ychwaith, y bwyd cymorthdaledig o’r pantri symudol

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£50,776
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Merthyr Tudful
Cwblhau:
Thema:
1
Mesur:
19.2
Connect to Wellbeing - The Gellideg Foundation Group

Cyswllt:

Enw:
Harri Evans
Rhif Ffôn:
01685 725463
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts