DAISY

Bydd y prosiect yn treialu hyfforddiant a gwasanaeth gwybodaeth wyneb yn wyneb i bobl nam difrifol ar y clyw trwy wneud defnydd o dechnoleg ddigidol. Maer cynllun peilot yn amcanu at gysylltu defnyddwyr gwasanaethau o bob oed gyda chyfieithydd/dehonglydd BSL ar person cyswllt cymunedol sydd wedii leoli o fewn Medrwn Mn, i gael mynediad at wasanaethau lefel isel gan gyrff trydydd sector a fydd yn eu cynorthwyo i fyw bywydau mwy annibynnol: 
 
Bydd y cynllun peilot yn canolbwyntio ar:- 
  • Hyfforddi staff i hyfforddi defnyddwyr y gwasanaeth i ddefnyddio ffonau symudol a thabledi i gyfathrebu chyfieithwyr/dehonglwyr (gwasanaeth am ddim ir defnyddiwr gwasanaeth) 
  • Bydd codi ymwybyddiaeth a hyfforddiant yn hygyrch trwy fforymau presennol Cymdeithas y Byddar Gogledd Cymru 
  • Ni fydd angen prynu offer gan fod gan Medrwn Mn a Menter Mn rhyngddynt stoc o dabledi ac I-Padiau y gellir eu ddefnyddio at y diben hwn 
  • Hefyd cynhyrchir fideo hyfforddi a all fod ar gael ar You tube 
  • Bydd y gwasanaeth ar gael am ddau ddiwrnod yr wythnos 10.00 am 3.00pm o Neuadd y Dref Llangefni 
  • Bydd y cynllun peilot yn rhedeg am 6 mis tra gwneir ceisiadau am gyllid grant i barhau a datblygur peilot ymhellach 
  • Bydd y cynllun peilot hefyd yn rhoi sylw i gyfeirio defnyddwyr gwasanaeth ymlaen i gyfleoedd hyfforddiant pellach a thrwy hynny wella eu cyflogadwyedd. 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£9,556
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Ynys Môn
Cwblhau:
Thema:
5
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Jackie Lewis
Rhif Ffôn:
01248 725706
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts