Bydd 10 corff yn rhan o’r prosiect cydweithredol hwn a’r nod cyffredin fydd ymdrin â phroblemau sy’n effeithio ar gymunedau gwledig yr ardal. Y bwriad yw gwneud y gorau o oddeutu 40 o safleoedd ar y dirwedd gan wella cynefinoedd a chyflwr y pridd, sicrhau nad oes rhagor o rywogaethau’n diflannu, gwella’r broses o ailgylchu maetholion a chynyddu’r posibilrwydd o storio carbon.
Mae’r safleoedd yn amrywio o leoliadau ar yr ucheldir i gynefinoedd y twyni arfordirol sy’n bwysig o safbwynt rheoli llifogydd. Bydd y gweithgareddau’n cynnwys atal prysgwydd rhag ymledu i safleoedd hamdden, clirio golygfannau allweddol a chreu mynediad cynaliadwy. Drwy wella safleoedd gwyrdd ar gyrion cymunedau trefol a threfnu digwyddiadau addysgol a chymunedol yn ymwneud â chadw anifeiliaid, bwriedir codi ymwybyddiaeth o’r buddion a’r cyfleoedd sydd ynghlwm wrth y dirwedd.
Nod y prosiect yw adfer sgiliau rheoli tir traddodiadol a datblygu sgiliau newydd a chyfleoedd busnes posibl gan fanteisio ar brofiadau’r cydweithredwyr amrywiol a drwy ennyn diddordeb pobl ifanc yr ardal.
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
£561,391
- Ffynhonnell cyllid:
-
Y Cynllun Rheoli Cynaliadwy
- Ardal:
-
Sir Ddinbych
- Cwblhau:
-
Cyswllt:
- Enw:
- David Shiel
- Cyfeiriad e-bost:
- David.shiel@denbighshire.gov.uk
- Email project contact
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts