Eglwysi Diddefnydd Eglwysi Diddefnydd

Mae adeiladau treftadaeth grefyddol dan fygythiad ar draws Ewrop. Mae colli cynulleidfaoedd, diffyg ariannol a diffyg gwybodaeth yngln gwarchod adeiladau ar trysorau sydd ynddynt, oll yn cyfrannu at golli casgliad sylweddol o destament i hanes Ewropeaidd a threftadaeth anniriaethol. Gall cadwraeth treftadaeth grefyddol fod yn offeryn pwysig i adfywio ardaloedd trefol a gwledig ar gyfer y dyfodol. Un posibilrwydd yw trwy ddefnydd estynedig: cydfodolaeth defnydd cymunedol, diwylliannol ac addoliad mewn adeilad. Mae adfywio trefol, twf economaidd a datblygiad diwylliannol i gyd yn rhyng-gysylltiedig. Hefyd, gall defnydd estynedig roi cyfle i gysylltu treftadaeth grefyddol, syn cynnwys ystyr a hunaniaeth, i gymunedau nad ydynt yn rhai ffydd, o ystyried cyfeiriad meddwl seciwlar ein hamser ni. Un budd o ddefnydd estynedig yw cefnogaeth ehangach ir adeilad: dod mwy o bobl, adnoddau a sefydliadau i mewn i gynorthwyo.

Y posibilrwydd arall yw trawsnewid eglwysi segur yn asedau twristiaeth cymunedol a chreu cysylltiadau chadwraeth a hyfforddi pobl diddordeb. Dangosodd arolwg a gynhaliwyd ym mis Ebrill 2014 fod 84% o Ewropeaid yn credu bod eglwysi ac adeiladau crefyddol yn rhan ou treftadaeth ddiwylliannol Mae 79% o blaid cadw a diogelu eglwysi, au bod yn hanfodol ar gyfer bywyd y gymuned yn y presennol ar dyfodol Cred 87% y dylai eglwysi fod yn agored i dwristiaeth pan fyddant yn cynnwys trysorau pensaernol neu artistig. Maer astudiaeth felly yn bwriadu nodi tair eglwys wledig segur sydd hanes diddorol neu werth treftadaeth sylweddol, fel eglwys Sant Gredifael gydai beddrod alabastr a rhagflaenwyr uniongyrchol Harrir 8fed o Loegr, ac 1 eglwys sydd dan fygythiad o gau, i edrych ar opsiynau o ddefnydd yn y dyfodol ac i amddiffyn a gwarchod. Bydd yr ardal gyfagos, gan gynnwys cymunedau, mwynderau ac atyniadau, hefyd yn cael ei ystyried wrth edrych ar unrhyw weithgarwch yn yr eglwys yn y dyfodol.

 

 

 

 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£7,600
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Ynys Môn
Cwblhau:
Thema:
1
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Jackie Lewis
Rhif Ffôn:
01248 725716
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts