Gwelliannau yn Llangefni

"Nod y prosiect yw gwella tri lleoliad allweddol, sef Oriel Môn, Gwarchodfa Natur Nant y Pandy a llwybr Lôn Las 566, y mae'r tri yng nghyffiniau tref farchnad Llangefni. Adeiladwyd Oriel Môn yn 1991 fel oriel bwrpasol i arddangos treftadaeth a diwylliant Ynys Môn ac yn gartref i gasgliad y Cyngor ei hun o waith celf gan yr artist bywyd gwyllt Charles Tunnicliffe. Llwyddodd yr oriel i ddenu 83,331 o ymwelwyr yn 2016/17. Flwyddyn nesaf (2018), byddwn yn dathlu canmlwyddiant geni Kyffin Williams, un o artistiaid mwyaf adnabyddus Cymru yn ystod yr 20fed ganrif. Mae arddangosfa barhaol o'i waith yn Oriel Môn ac mae'r oriel yn bwriadu dadorchuddio cerflun efydd maint llawn o Kyffin Williams wrth ei waith, sy'n rhodd i Oriel Môn. Mae'r prosiect wedi'i rannu fel a ganlyn: 

Mae gwelliannau i Oriel Môn yn cynnwys y canlynol: 

• Creu ardaloedd eistedd allanol ar dir Oriel Môn 
• Plinth a gosod y cerflun o Kyffin Williams a gafwyd fel rhodd. 
• Gwell tirlunio 
• Arwyddion a gwelliannau ar dir Oriel Môn, gan gynnwys blychau rhoddion a chyfleusterau ailgylchu "
 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£128,000
Ffynhonnell cyllid:
Cymorth Buddsoddi mewn Amwynderau Twristiaeth (TAIS)
Ardal:
Ynys Môn
Cwblhau:

Cyswllt:

Enw:
Dewi Lloyd
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts