Gwenyn Prysur Blaenafon

Dyma'r buddsoddiadau a wneir: 

  1. Adnewyddu'r adeilad, gan gynnwys gwahanu'r gegin a'i gwella, gwella'r ardaloedd toiled (gan gynnwys darparu toiled hygyrch i'r plant ochr yn ochr â'r un sydd eisoes yno at ddefnydd oedolion), newid gwydr rhai ffenestri (rhai gyda gwydr a rhai gyda phanel UPVC i osgoi colli gwres a helpu gyda glanhau) ac uwchraddio'r system wresogi.
  2. Prynu bws mini a fydd yn cael ei ddefnyddio i ddanfon a chasglu plant o'r ysgol, gan alluogi teithiau Meithrinfa a Chlwb Plant yn yr ardal, a byddai ar gael ar adegau eraill, megis gyda'r nos ac ar benwythnosau at ddibenion cymunedol eraill. 

Ym Mlaenafon, mae gofal ar gael hefyd i deuluoedd y mae eu plant yn mynychu Ysgol Bryn Onen ac Ysgol Gynradd Garnteg.

Pan fydd wedi'i gwblhau, bydd yr adeilad wedi'i adnewyddu'n parhau i ddarparu gofal plant a darpariaeth y tu allan i'r ysgol ar gyfer 120 o deuluoedd a sicrhau 28 o swyddi yn ardal Blaenafon.
 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£38,400
Ffynhonnell cyllid:
Y gronfa datblygu cymunedau gwledig
Ardal:
Torfaen
Cwblhau:

Cyswllt:

Enw:
Cara Boddington
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts