Kizuna: Japan | Cymru | Dylunio

Bydd y prosiect hwn yn datblygu'r hyn a gynigir yng Nghymru i dwristiaid trwy hyrwyddo a lansio arddangosfa dros yr haf o'r enw Kizuna yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.  

Bydd mynediad am ddim a bydd yn rhedeg o 16 Mehefin tan 9 Medi 2018. Bydd yr arddangosfa'n dangos y gorau o waith dylunio Japan dros y 400 mlynedd diwethaf, gan dynnu sylw at y cysylltiadau rhwng Japan a Chymru, dwy wlad o ben arall y byd i'w gilydd sydd â chlymau hanesyddol sy'n tarddu o deithiau llongau'r gorffennol. Cymeradwyir a noddir y prosiect gan Lywodraeth Japan, Asiantaeth Materion Diwylliannol Japan a Llysgenhadaeth Japan yn y DU. Bydd yr arian yn talu am farchnata ychwanegol gan dargedu gweithgarwch i ennyn diddordeb yn y DU a thu hwnt.

Bydd ein gwaith marchnata'n canolbwyntio ar ddatblygu cynulleidfa fwy i ymweld ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Bydd y prosiect yn cysylltu â chynulleidfa ryngwladol newydd gan ddenu ac ysbrydoli ymwelwyr newydd trwy ansawdd y cynnyrch diwylliannol a hanesyddol sydd ar gynnig yng Nghymru. 
 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£101,525
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa Ymgysylltu Twristiaeth Ranbarthol (RTEF)
Ardal:
Caerdydd
Cwblhau:

Cyswllt:

Enw:
Maria Ioannou
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts