Mewndir Mn

Gweithgarwch arian sefydlu i herior cymunedau am syniadau Leader - Mae hwn yn un or argymhellion syn deillio or astudiaeth Pecynnau Antur Cymru ac maen cynnwys ffilmio i ddechrau dwy gymuned mewndirol yn Ynys Mn nad ymwelir hwy yn aml - Llannerchymedd a Gwalchmai. Y bwriad yw ymchwilio i hanes a phethau diddorol eraill amdanynt, a wedyn herior gymuned i ymateb iw methiannau a llwyddiannau eu hunain, gyda golwg ar ddenu ymwelwyr o botiau mel yr ynys i fewndir Ynys Mn a thrwy hynny annog twf economaidd. 

Bydd y ffilm yn cynnwys cyfweliadau ad hoc ar y stryd chroestoriad da or gymuned gan gynnwys perchnogion busnesau a fydd yn cael ei ffilmio mewn ffordd sensitif a doniol ar defnydd o drn i ysbo ar gymeriad cymuned (gydau cymeradwyaeth wrth gwrs) 
Bydd y gweithgarwch uchod yn herio gwybodaeth a dyheadau pobl leol ac yn archwilio beth syn eu gwneud yn wahanol. Y mathau o gwestiynau a ofynnir fydd:- 
  • O lle ddaeth enwr pentref? 
  • Beth ywr peth mwyaf cofiadwy am eich pentref? 
  • Petai Gwalchmai yn anifail, beth fyddai? 
  • Sawl n sydd yn Llannerchymedd?? 
  • Pwy ywr person mwyaf doniol, mwyaf enwog, blin, harddaf yn Llannerchymedd a pham? 
  • Pa un sydd orau, Gwalchmai Uchaf ynteu Gwalchmai Isaf a pham? 
  • Pa un ywr gymuned fwyaf Gymraeg? Bydd y ffilm hon pan gynhyrchir hi yn cael ei dangos ar You Tube a facebook / twitter drwy ymgyrch gomisiwn ar y cyfryngau cymdeithasol a gynlluniwyd i herio a denu sylwadau, gydar bwriad o gael pobl i feddwl go iawn am eu cymuned a chynhyrchu adborth a syniadau ar sut i fywiogi Ynys Mn fewndirol drwy ddull LEADER. 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
Ardal:
Ynys Môn
Cwblhau:
Thema:
1
Mesur:
19.2

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts