Parc Gwyliau Pen y Garth

Uwchraddiwyd Parc Gwyliau Pen y Garth (PYG) i ansawdd 5 Seren ac enillodd Wobr Parc Gorau Cymru gan Croeso Cymru ym mis Tachwedd 2015. Ers i'r ymgeisydd gymryd yr awenau, mae nifer y cabanau yn PYG wedi dyblu ac mae nifer yr ymwelwyr wedi cynyddu fwy na 400%.

O ystyried y nifer gynyddol o ymwelwyr ar y safle, nid yw'r adeilad a ddefnyddir ar gyfer y dderbynfa ar hyn o bryd, sef caban bach wedi'i drosi sydd tua 24 oed, yn addas. Nod y prosiect hwn yw creu 'Canolfan Groeso' newydd, sef adeilad modern a fydd yn ganolbwynt i'r parc a'r busnes, ac a all ddarparu ar gyfer hyd at 60,000 o ymwelwyr y flwyddyn a hyd at 30 o aelodau o staff. 
 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£60,000
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa Fusnes Micro Bychan (MSBF)
Ardal:
Gwynedd
Cwblhau:

Cyswllt:

Enw:
Gareth LL Williams
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts