Ribride Velocity

Prynu taith ar gwch antur Rib, a fydd yn cludo 11 o deithwyr ac yn darparu'r profiad cyflymaf yn y byd ar gwch antur rib.

Mae'r prosiect hwn yn anelu at greu RibRide Velocity, sef cwch antur Rib penodol a fydd yn teithio ar gyflymder dros 70 mya, sef y profiad Rib cyflymaf yn y byd.

Bydd y cynnig yn cynnwys profiad 1 awr o hyd, sef sesiwn friffio 30 munud ar y lan a 30 munud ar y dŵr yn ymgymryd â phedair taith milltir o hyd wedi'u hamseru ar Afon Menai sy'n gysgodol.

Bydd y daith milltir yn tywys 11 o deithwyr (4 oed a throsodd) ar hyd cwrs wedi'i fesur, a ardystiwyd gan Asiantaeth Forol Gwylwyr y Glannau a'r awdurdodau porthladd lleol.

Bydd y daith yn cael ei gweithredu am ryw 130 o ddiwrnodau drwy'r flwyddyn, gan werthu cyfartaledd o 50% o'r lleoedd i gwsmeriaid presennol a chwsmeriaid newydd. Gan weithio mewn partneriaeth â ZipWorld, mae'r busnes wedi cytuno i ddefnyddio enw Velocity er mwyn cysylltu'r gweithgareddau, gan gynnig tocynnau ar y cyd, gwaith marchnata ar y cyd a thrafnidiaeth rhwng y lleoliadau. Bydd RibRide Velocity fel y llong fasnachol gyflymaf i deithwyr yn helpu i atgyfnerthu enw Velocity a'i gysylltiad â Gogledd Cymru fel y prif gyrchfan ar gyfer anturiaethau adrenalin. 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£50,000
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa Fusnes Micro Bychan (MSBF)
Ardal:
Ynys Môn
Cwblhau:

Cyswllt:

Enw:
Phil Scott
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts