Uwchraddio’r Maes Parcio i Fysiau ac uwchraddio cyfleusterau

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, buddsoddwyd tua £6m yng Nghastell Harlech a'r cyffiniau ac o ganlyniad, cafwyd cynnydd o 35% i 102k yn nifer yr ymwelwyr ers 2014/15. Fodd bynnag, nid yw'r meysydd parcio na'r toiledau yn y dref yn cyrraedd safon dderbyniol. Yn ogystal ag effeithio ar foddhad cwsmeriaid, mae'r ffaith nad oes cyfleusterau parcio penodol i fysiau wedi atal llawer o gwmnïau teithio rhag cynnwys y dref ar eu rhestr ymweliadau. Nodwyd yr angen am gyfleusterau parcio bysiau ym maes parcio Bron y Graig Uchaf a gwell cyfleusterau toiled ym maes parcio Bron y Graig Isaf fel blaenoriaeth, nid yn unig yn y Cynllun Rheoli Cyrchfannau ond hefyd gyda'r holl randdeiliaid allweddol eraill o'r sector cyhoeddus a'r sector preifat, gan gynnwys y Parc Cenedlaethol, Sefydliadau Twristiaeth, Castell Harlech a pherchenogion yr holl fusnesau yn y dref.

Felly, mae'r prosiect yn ceisio ymdrin â'r materion hyn a gobeithio y bydd yn gweithredu fel catalydd ar gyfer twf pellach yn y dref yn y dyfodol. Drwy ddenu mwy o bartïon ar fysiau a chwmnïau teithio i'r dref, yn ogystal â gwella eu profiad yn sylweddol tra byddant yn y dref, dylai'r prosiect hwn gael effaith sylweddol ar nifer yr ymwelwyr, yr amser y byddant yn ei dreulio yn y dref a'u gwariant. Wrth reswm, y castell fydd y prif atyniad ond caiff y buddsoddiad hwn sgil-effaith sylweddol ar siopau, llety, caffis a bwytai eraill hefyd. 
 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£40,793
Ffynhonnell cyllid:
Cymorth Buddsoddi mewn Amwynderau Twristiaeth (TAIS)
Ardal:
Gwynedd
Cwblhau:

Cyswllt:

Enw:
Dafydd Gibbard
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts