Wellbeing through Woodcraft

Prosiect peilot lles drwy natur yw Wellbeing through Woodcraft, sy'n ceisio arddangos effeithiolrwydd ymagwedd presgripsiynu cymdeithasol newydd a blaengar o ddarparu cefnogaeth i unigolion y mae'r pandemig Coronafeirws a'r cyfnodau clo dilynol wedi cael effaith andwyol arnynt. Byddai hyn yn cynnwys y rheini sydd â phroblemau iechyd meddwl "lefel isel" fel iselder a phryder cymdeithasol sy'n gysylltiedig â'r cyfnod clo, yn ogystal â'r rheini a chanddynt hanes blaenorol o broblemau iechyd meddwl, nad ydynt wedi gallu cymdeithasu neu dreulio amser tu fas oherwydd y cyfnodau clo.

Rydym yn bwriadu ehangu'r buddion corfforol a meddyliol a geir drwy gyswllt â natur gyda grŵp ehangach o bobl, gan gynnwys y rheini mewn ardaloedd incwm isel a'r rheini sydd efallai’n profi heriau corfforol, meddyliol neu gymdeithasol. Mae CIC Dryad yn bwriadu integreiddio rhaglen gweithgareddau coetir fel rhan o'r GIG drwy bresgripsiynu cymdeithasol, a chyflwyno cyfres o 12 sesiwn les yn ein gweithdy coetir a ddyluniwyd at y diben yn Park Woods.  Bydd y sesiynau hyn yn cynnwys amrywiaeth eang o weithgareddau byw yn y gwyllt a choedwriaeth sydd wedi'u cynllunio'n benodol ar gyfer pobl sydd wedi profi anawsterau yn ystod y pandemig.

Caiff cyfranogwyr y gweithgareddau hyn eu hatgyfeirio atom drwy gydweithrediad â Hwb presgripsiynu cymdeithasol CGGA ar gyfer Gŵyr. Bydd uchafswm o 10 cyfranogwr ym mhob sesiwn ac rydym yn bwriadu cynnal sesiynau gyda phobl wahanol o amrediad eang o ddemograffeg, er mwyn gwerthuso effeithiolrwydd y broses. Byddwn hefyd yn cynhyrchu ffilm ddogfen fer i arddangos buddion iechyd a lles therapi sy'n seiliedig ar natur. Bydd canfyddiadau'r prosiect peilot hwn yn cael eu hychwanegu at gronfa ddata Rhwydwaith Ymchwil Presgripsiynu Cymdeithasol Cymru, a fydd yn helpu i sefydlu côd ymarfer Cymru gyfan ar gyfer atgyfeiriadau gan feddygon teulu ac ymyriadau sy'n seiliedig ar natur.

Mae'r gweithgareddau a gyflwynir ar ein cyrsiau’n cynnwys chwilota am fwyd a meddyginiaeth, trafod cyllyll ac offer miniog yn ddiogel, cerfio pren gan ddefnyddio offer llaw, crefft tân a dulliau cynnau tân cynnar, creu siarcol, technegau coginio yn yr awyr agored, cymorth cyntaf, adeiladu lloches, gwehyddu helyg, creu rhaffau naturiol, bwrw efydd, naddu fflint, gwaith gof, trin croen a thecstilau hynafol, crochenwaith, rheoli coetiroedd, creu cynefinoedd.

Mae buddion treulio amser ym myd natur yn cael eu cydnabod yn fyd-eang. Rydym hefyd yn gweithio'n agos gydag amrywiaeth eang o sefydliadau i ddarparu gweithgareddau therapiwtig i'r rheini y mae angen y rhain arnynt fwyaf. Mae hyn yn cynnwys y Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig, Cyngor Ffoaduriaid Abertawe a sefydliadau eraill sy'n gweithio gyda phobl o gefndiroedd ethnig amrywiol.

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£10000.00
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Abertawe
Cwblhau:
Thema:
1, 3
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Victoria Thomson
Rhif Ffôn:
01792636992
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts