Mae ffermwr defaid o Gymru yn dweud bod rhaid cydbwyso cyflawni arbedion carbon mewn amaethyddiaeth yn erbyn yr angen i fusnesau fferm fod yn gynhyrchiol a phroffidiol.

Cwblhaodd Rhys Edwards, sy’n cadw diadell o 530 o ddefaid a 180 o ŵyn benyw gyda’i rieni, Russell ac Eira, yn Hendre Ifan Goch ger Pen-y-bont ar Ogwr, archwiliad carbon o’r fferm yn ei rôl fel safle arddangos Cyswllt Ffermio. Dangosodd yr archwiliad fod y cydbwysedd yn garbon negyddol (ar -197.01), oherwydd bod gan y fferm lefelau uchel o ddeunydd organig yn y pridd.

Mae’r ddiadell ddefaid yn gyfrifol am 49% o allyriadau, felly bydd y ffocws, wrth symud ymlaen, ar effeithlonrwydd mamogiaid a chyfraddau twf ŵyn. Dywedodd Mr Edwards mewn gweminar ‘Yn Fyw o’r Fferm’ Cyswllt Ffermio yn ddiweddar ei fod wedi dewis offeryn mesur ôl troed carbon Farm Carbon Toolkit oherwydd dyma’r unig un sy’n cydnabod dal a storio carbon wrth gyfrifo.

Dywedodd Rhys ei fod yn cymryd camau – gan gynnwys gosod targed i ddiddyfnu ŵyn ar 65% o bwysau’r famog – i leihau allyriadau gan y ddiadell. Mae’r mamogiaid yn pwyso 65kg, felly os yw 1.65 o ŵyn fesul mamog sy’n cael hwrdd yn cael eu magu, a bod yr ŵyn ar gyfartaledd yn 26kg adeg diddyfnu, bydd y targed o 65% o bwysau llawn dwf yn cael ei gyrraedd.

“Dydw i ddim yn meddwl bod unrhyw beth arall y gallwn ei wneud yn gorfforol i fod yn garbon gyfeillgar, ac mae’n rhaid i leihau allyriadau weithio law yn llaw â rhedeg busnes cynhyrchu bwyd proffidiol,” meddai Rhys.

Ceisir gwelliannau mewn cyfraddau twf ar ôl diddyfnu, oherwydd gall perfformiad fod yn her yn yr hydref o ganlyniad i argaeledd glaswellt a diffygion elfennau hybrin.

Dywedodd yr ymgynghorydd defaid annibynnol Dr Liz Genever, sydd wedi bod yn gweithio gyda’r fferm ar y prosiect hwn, po fwyaf o ddyddiau y mae ŵyn ar y fferm, y mwyaf y maent yn ei fwyta, a’r mwyaf o fethan y maent yn ei gynhyrchu.

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.