Mae arolygon bioamrywiaeth yn darparu llinell sylfaen fuddiol o ran sut mae fferm yn cefnogi bywyd gwyllt, ac yn amlygu cyfleoedd i wella coridorau cynefinoedd ymhellach ledled Cymru, yn ôl astudiaeth beilot newydd. 

Mae prosiect peilot yn fferm Pendre, safle arddangos Cyswllt Ffermio yn Llanfihangel-y-Creuddyn, Aberystwyth, wedi dangos gwerth cynnal arolygon ar fferm i ganfod cynefinoedd. 

Edrychodd y prosiect ar sawl maes allweddol, o goetir a gwrychoedd i gyrsiau dŵr a glaswelltir, a darparodd argymhellion ar nifer o wasanaethau ecosystem posib y gallai’r fferm ddefaid gyfrannu atynt, gan gynnwys adfer natur.

Lleolir Pendre, sy’n cael ei ffermio gan Tom Evans a’i deulu, mewn ardal wledig ac ucheldirol, ac mae’n elwa o fod yn agos at dir fferm arall, gan ddarparu cynefinoedd pwysig i fywyd gwyllt. 

Dywedodd Lynfa Davies, o Cyswllt Ffermio, a gynhaliodd yr arolwg peilot, y bydd gwella cysylltedd rhwng yr ardaloedd hyn yn bwysig er mwyn caniatáu i rywogaethau bywyd gwyllt ddatblygu.

“Mae coetiroedd a gwrychoedd yn enghreifftiau pwysig o ddarparu’r cysylltedd hwn, ac mae angen i unrhyw gyfleoedd yn y dyfodol i wella neu ehangu ar yr adnoddau hyn gael eu gwneud gyda golwg ar yr hyn sy’n digwydd y tu hwnt i ffiniau’r fferm,” meddai.

“Mae hyn yn amlygu’r budd o feddu ar fap cynefinoedd ar gyfer y fferm, a dylai pob ffermwr gael mynediad at fapiau tebyg. Bydd hyn yn caniatáu dull mwy cydgysylltiedig o ddarparu gwasanaethau ecosystem ar draws dalgylchoedd dŵr neu blwyfi, ac mae’n debygol o arwain at ganlyniadau gwell.” 

“Ar sail unigol, byddai fferm yn elwa o ddeall mwy am y bywyd gwyllt sy’n cael ei gefnogi ar hyn o bryd er mwyn gweithredu arferion newydd i annog mwy o fywyd gwyllt,” ychwanegodd Ms Davies. 

“Mae’r lefel sylfaenol hon o wybodaeth yn brin ar draws y rhan fwyaf o ffermydd, ond gallai fod o gymorth mawr i fonitro newid a phennu cyflymder y newid hwnnw.”

“Er mwyn arddangos cynnydd mewn bioamrywiaeth, mae angen i chi wybod beth oedd yno yn y lle cyntaf.”
Awgrymodd y gallai cyfres o arolygon manylach fod yn fuddiol yn fferm Pendre, gan gynnwys adar sy’n magu, peillwyr ac infertebratau eraill fel chwilod y dom. 

Amlygodd arolwg Cam 1, fel y’i gelwir, bresenoldeb sawl cynefin yn fferm Pendre, gan gynnwys gwrychoedd a choetir, a allai wneud cyfraniad cadarnhaol at atafaelu carbon, gan arddangos gwerth cael amrywiaeth gyfoethog o gynefinoedd ar draws y dirwedd. 

“Mae hwn yn faes posib lle gellid cymryd mesuriadau manylach i ddarparu gwybodaeth a chyngor ar arferion rheoli yn y dyfodol,” ychwanegodd Ms Davies. 

“Er enghraifft, nodwyd bod yr holl wrychoedd wedi’u tocio’n daclus, ac mae hyn yn debygol o gael ei wneud yn flynyddol. Er mwyn cronni mwy o garbon, gall fod yn fuddiol torri gwrychoedd bob dwy neu dair blynedd, a fydd hefyd yn cyfrannu at ddarparu cynefinoedd ar gyfer amrywiaeth o fywyd gwyllt.”

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.