Farmer Ben Williams standing on a track

Bydd dros 20 o fridwyr defaid mynydd ledled Cymru yn cymryd rhan mewn prosiect amgylcheddol arloesol i weld sut mae'r bwyd a gynhyrchir gan eu diadelloedd yn mynd law yn llaw â gwella bioamrywiaeth a lleihau allyriadau carbon. 

Bydd y rhaglen archwilio amgylcheddol, a gaiff ei lansio mewn derbyniad i ffermwyr ar stondin Hybu Cig Cymru (HCC) yn Sioe Frenhinol Cymru ddydd Mawrth 19 Gorffennaf, yn gwerthuso sefyllfa ffermio ucheldir Cymru o ran ei nodweddion amgylcheddol, a pha le sydd ar gyfer gwelliant pellach.

Rhoddwyd cyfle i'r ffermwyr a gymerodd ran yng Nghynllun Hyrddod Mynydd HCC i gymryd rhan yn y prosiect hwn. Mae’r Cynllun yn rhan allweddol o’r Rhaglen Datblygu Cig Coch, a ariennir gan yr UE a Llywodraeth Cymru, ac a luniwyd i sicrhau dyfodol bywiog a chynaliadwy i gymunedau amaethyddol yn ucheldiroedd Cymru.

Dywedodd un o'r 22 o fridwyr hyrddod mynydd Cymru sydd wedi ymuno â'r prosiect archwilio:

“Rwy’n awyddus i weld ar bapur sut mae gwella ein nodweddion amgylcheddol o fudd i dirwedd wledig Cymru.”

Dywedodd Ben Williams, 29, sy’n ffermio mewn partneriaeth â’i deulu ar Fferm Garth Uchaf ar gyrion Caerdydd:

“Rydyn ni, ffermwyr Cymru, wedi gwneud llawer o waith amgylcheddol dros y blynyddoedd. Yma, ym Mhen-tyrch, rydyn ni wedi gosod gwrychoedd newydd, plannu 6000 o goed brodorol a chreu pyllau bach. Dyma fydd ein cyfle i weld ffrwyth ein llafur yn cael ei gydnabod, gyda'r dystiolaeth ar bapur.”

Wrth ddefnyddio canllawiau Arferion Da y Sefydliad Siartredig Ecoleg a Rheolaeth Amgylcheddol (CIEEM), bydd arbenigwyr yn cynnal archwiliadau amgylcheddol manwl ar bob fferm, gan edrych yn benodol ar yr elfennau carbon a bioamrywiaeth.

Oddi ar 2018, mae ffermwyr y Cynllun Hyrddod Mynydd yn defnyddio technolegau sy’n seiliedig ar DNA i gofnodi perfformiad diadelloedd mynydd, gan alluogi ffermwyr i ddefnyddio data genetig i fridio’n ddetholus i wella perfformiad masnachol a chynaliadwyedd amgylcheddol eu ffermydd. 

Dywedodd Heather McCalman, Cydgysylltydd Cyflawni Prosiectau HCC: “Rydym nawr eisiau gwerthuso elfennau allweddol o gynaliadwyedd ar y ffermydd ucheldir hyn gan gynnwys archwiliad o allyriadau nwyon tŷ gwydr ac archwiliad amgylcheddol ehangach sy’n cynnwys bioamrywiaeth.

“Mae ein gwaith hyd yma wedi gweld dros 50 o ffermwyr yn dewis stoc sydd yn seiliedig ar gofnodion perfformiad defaid sy’n ffynnu yn y mynyddoedd. Mae’r cynllun wedi bod yn llwyddiannus iawn ac rydym yn arbennig o falch fod saith o fridiau hyrddod gwahanol yn cymryd rhan yn y cynllun.”

Bydd cam cyntaf y prosiect amgylcheddol ar y 22 fferm yn canolbwyntio ar fioamrywiaeth, lle cynhelir arolwg cynefin ar bob fferm i nodi’r cynefinoedd a’r nodweddion sy’n bresennol ar dir y fferm. 

Ychwanegodd Heather McCalman:

“Rydym yn rhagweld y bydd y canlyniadau cyffredinol yn amlygu'r effaith fuddiol o gael defaid (a gwartheg) yn pori ar y mynyddoedd a’r tiroedd uchel – nid yn unig er budd yr amgylchedd ond hefyd er budd cynhyrchu bwyd yng Nghymru."

Dywedodd y ffermwr, Ben Williams:

“Rydym ym mlwyddyn olaf Cynllun Hyrddod Mynydd Cymru, ac rwy’n edrych ymlaen at weld ein diadell o 600 o ddefaid o fridiau mynydd Cymreig yn datblygu ymhellach. Nawr fe welwn y ffigurau a gafodd eu casglu gennym yn gweithio er mantais i ni, wrth i ni ddatblygu effeithlonrwydd ein diadell i wella’r cig rydyn ni’n ei gynhyrchu.”

Mae Cynllun Hyrddod Mynydd HCC yn un o dri prosiect pum-mlynedd yn y Rhaglen Datblygu Cig Coch sy’n cael ei hariannu gan Raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, ag arian gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.