Mae Gwobrau Dysgwyr Diwydiannau’r Tir Lantra yn dathlu doniau’r unigolion a’r busnesau tir ac amgylcheddol gorau yng Nghymru, ac maent yn cydnabod menter, sgiliau a brwdfrydedd unigolion sy’n dilyn gyrfaoedd yn y sector amgylcheddol a’r sector tir.

Mae Gwobr Hyfforddiant Tyfu Cymru yn cydnabod y busnesau garddwriaeth gorau yng Nghymru am eu hymrwymiad eithriadol i Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus. Mae Tyfu Cymru yn brosiect sy’n cael ei reoli gan Lantra, sy’n cynnig cymorth wedi’i ariannu 100% ar gyfer hyfforddi a datblygu i’r Diwydiant Garddwriaeth, gyda chyllid gan Cynllun Datblygu Cadwyni Cyflenwi a Chydweithio Llywodraeth Cymru sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. 

Puffin Produce Ltd, enillwyr y wobr, yw cyflenwyr mwyaf cynnyrch Cymreig yng Nghymru, sy’n darparu gwahanol lysiau a thatws tymhorol i nifer o adwerthwyr a chyfanwerthwyr bwyd. Mae brand Blas y Tir yn gwerthu tatws o Gymru o safon, yn ogystal ag amrywiaeth o lysiau tymhorol blasus o Gymru.

Mae gwreiddiau Puffin wedi’u lleoli’n ddwfn yng nghefn gwlad Cymru. Ers y 1970au maen nhw wedi bod yn tyfu cynnyrch blasus ac yn cyflenwi amrywiaeth o gynnyrch o ffynonellau moesegol, sydd wedi’u tyfu, eu casglu a’u pacio yng Nghymru. Maent yn falch o barhau i gefnogi ffermwyr ac economi Cymru. Heddiw, mae Puffin Produce Ltd yn cyflogi tua 190 o aelodau tîm yn eu pencadlys yn Llwynhelyg. Maen nhw’n tyfu tua 65,000 tunnell o datws o Gymru bob blwyddyn, gan gynnwys eu tatws Cynnar Sir Benfro â statws PGI.

Puffin Produce

Mae llwyddiant Puffin Produce yn ennill Gwobr Hyfforddiant Tyfu Cymru yn deyrnged i’w hymrwymiad cyson i ddarparu hyfforddiant garddwriaeth rheolaidd a datblygiad proffesiynol parhaus i’w staff a’u cyflenwyr.

Dywedodd Stephen Mathias, o Puffin Produce: “Rydyn ni’n falch iawn o ennill y wobr hyfforddi hon ac rydyn ni’n ddiolchgar i Tyfu Cymru am eu cefnogaeth i wella sgiliau ein tyfwyr mewn amrywiaeth eang o feysydd.”

Four Crosses Nursery

Mae Four Crosses Nursery, a gyrhaeddodd y rownd derfynol, yn tyfu stoc galed ar gyfer cyflenwad cyfanwerthol. Mae ganddynt y gallu a’r cymhwyster i gynhyrchu nifer helaeth o blanhigion am brisiau cystadleuol. Cafodd Four Crosses Nursery ei sefydlu ym 1989 ac fe’i lleolir yn Llanymynech, Powys. Mae’n cynhyrchu dros 3.5 miliwn o lwyni mewn potiau ar gyfer cyflenwad cyfanwerthol.

Mae enwebiad Four Crosses Nursery am Wobr Hyfforddi Tyfu Cymru yn cydnabod eu hymrwymiad parhaus i ymgysylltu drwy gael y gefnogaeth mae Tyfu Cymru yn ei chynnig, trwy hyfforddiant, cyngor a thrwy ffyrdd eraill o ddatblygiad proffesiynol parhaus.

Dywedodd Gary Swain o Four Crosses Nursery: “Yn ystod y tair blynedd diwethaf mae Four Crosses Nursery wedi dyblu eu trosiant ac wedi cyflogi 8 o bobl ychwanegol. Dim ond gyda chymorth parhaus Tyfu Cymru a’u gweledigaeth y bydd garddwriaeth yn ddiwydiant twf sylweddol yng Nghymru y mae hyn wedi bod yn bosib.”

Roedd yr enwebeion ar gyfer y wobr hefyd yn cynnwys:

  • Ali's Edibles yn Llan-maes, Bro Morgannwg - Gardd Farchnad yw Ali’s Edibles ym mhentref Llanfaes, ym Mro Morgannwg.
  • Boverton Nurseries Ltd | Llanilltud Fawr, Bro Morgannwg - Busnes teuluol wedi’i hen sefydlu yw Boverton Nurseries Ltd sy’n arbenigo mewn planhigion gardd y Gwanwyn a’r Haf sy’n cael eu tyfu’n benodol at y gofyn i awdurdodau lleol.
  • Henbant | Caernarfon, Gwynedd - Fferm teuluol a chymunedol adfywiadwy yw Henbant ar arfordir Gogledd Cymru.
  • Springfields Fresh Produce (Maenorbyr) Ltd | Dinbych- y-pysgod, Sir Benfro - Nick a Pat Bean sy’n berchen ar Springfields. Maen nhw’n tyfu mefus, cennin pedr ac asbaragws o safon ers blynyddoedd yn Sir Benfro.

Dywedodd Sarah Gould, Rheolwr Prosiect Tyfu Cymru, “Hoffem longyfarch Puffin Produce, Four Crosses Nurseries a phawb a enwebwyd ar gyfer gwobr Tyfu Cymru. Mae’r tyfwyr hyn, nid yn unig yn gwneud cyfraniad sylweddol i’r diwydiant garddwriaeth yng Nghymru, ond maent hefyd wedi dangos ymroddiad eithriadol i dyfu’r diwydiant drwy alluogi ac annog eu tîm i ymgymryd ag hyfforddiant a datblygiad arbenigol, gyda’r nod o leihau’r bwlch sgiliau sy’n wynebu’r diwydiant ar hyn o bryd. Roeddem yn falch o gydnabod hyn drwy wobr Tyfu Cymru.”

Mae Puffin Produce a Four Crosses Nursery ymysg 400 o fusneau tyfu sydd wedi cael cymorth gan Tyfu Cymru. Mae’r rhaglen bellach wedi darparu dros 1,314 o ddiwrnodau hyfforddi wedi’u hariannu’n llawn, gyda dros 3,000 o gyfranogwyr, ac wedi sefydlu 35o rwydweithiau tyfwyr sy’n canolbwyntio ar ddarparu cyfleoedd i dyfwyr gydweithio i oresgyn problemau cyffredin.

Ychwanegodd Sarah Gould, “Mae’r diwydiant garddwriaeth yng Nghymru wedi dangos ei gadernid a’i allu i addasu’n gyflym i amgylchiadau sy’n newid. Ein nod yw cefnogi tyfwyr yng Nghymru i oresgyn y rhwystrau hyn a sicrhau eu bod mewn sefyllfa ddelfrydol i fanteisio ar gyfleoedd wrth iddynt ddod i’r amlwg. Gallai hynny fod yn gyngor technegol i ddeall sut i wella cynnyrch cnydau, canllawiau ar dechnegau tyfu newydd neu hyfforddiant ar wella sianeli marchnata digidol.”

Mae Tyfu Cymru yn darparu 100% o gefnogaeth cyllid i fusnesau garddwriaeth cymwys yng Nghymru trwy ddarparu cefnogaeth 1:1, rhwydweithiau, teithiau astudio, hyfforddi mewn grŵp yn ogystal â ffyrdd eraill o helpu i ddatblygu dealltwriaeth, sgiliau a phrosesau diwydiannol. Mae Tyfu Cymru wedi cael cyllid drwy gynllun Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru tan fis Mawrth 2023. I gael gwybod mwy ewch i: https://www.tyfucymru.co.uk/cartref/