Calon Tysul Develops Innovative New Programme to Help Swimming Teachers Improve Welsh

Mae Calon Tysul wedi lansio prosiect cyffrous ac arloesol er mwyn gwella sgiliau Cymraeg ar ochr y pwll mewn pyllau nofio ledled Cymru. 

Fe fydd staff sydd yn gweithio yn y sector dysgu nofio yn gallu mynychu amrywiaeth o gyrsiau ar-lein ac wyneb i wyneb yn fuan i wella eu sgiliau ieithyddol.

Diolch i gymorth gan gynllun grant LEADER Cynnal y Cardi a Adran Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Sir Ceredigion, mae Calon Tysul wrthi’n creu cyrsiau peilot bydd yn help mawr i athrawon nofio sydd am godi ychydig o hyder yn y Gymraeg neu sydd eisiau gwybod sut i ddysgu gwersi nofio yn effeithiol yn ddwyieithog.

Dywed rheolwr y prosiect, Matt Adams, “er bod miloedd o deuluoedd yn siarad Cymraeg fel eu prif iaith ar draws Cymru, dydy mynediad at wersi nofio cyfrwng Cymraeg ddim wedi bod yn hawdd iawn i bob teulu. Rydyn ni’n ffodus yn Llandysul i allu darparu ein rhaglen dysgu nofio i gyd yn y Gymraeg, ond prin yw’r cyfleoedd hynny mewn pyllau nofio eraill.  

“Fe fydd y cyrsiau hyn yn helpu darparwyr nofio gwella sgiliau Cymraeg eu gweithlu trwy roi hyfforddiant ychwanegol yn seiliedig ar yr hyn rydym wedi’i ddysgu fel prif ddarparwr gwersi nofio cyfrwng Cymraeg yn ne Cymru.”

Dywedodd, Iestyn ap Dafydd, ymgynghorydd ieithyddol y prosiect. “rydyn ni wrthi’n creu adnoddau dysgu ar gyfer gwersi ‘micro’ ar blatfformau megis TikTok a Snapchat.  Bydd y rhain ar gyfer un rhywun sydd eisiau gallu dysgu ambell i air neu derm Cymraeg ar gyfer dysgu nofio.  

“Hefyd, mae cwrs peilot preswyl yn digwydd ym mis Mawrth yn Llandysul ac mae hyn ar gyfer pobl sy’n medru ar yr iaith eisoes ond sydd eisiau gwella hyder i ddefnyddio eu Cymraeg wrth ddysgu nofio i blant.  Gallai’r cwrs hefyd fod yn ddefnyddiol i athrawon cynradd cyfrwng Cymraeg a hoffai ddod yn fwy cyfarwydd â therminoleg nofio Cymraeg.”

Cyllidwyd y cynllun LEADER drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Llywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r rhaglen ewch i: https://calontysul.cymru/datblygu-sgiliau-cymraeg-athrawon-nofio/