Rugby player web banner

Mae chwaraewr rygbi y mae ei goes ‘heb fod yn iawn’ ers cael ei heintio gan faw ci 17 mlynedd yn ôl, yn annog perchnogion cŵn i wneud y peth iawn a glanhau ar ôl eu hanifeiliaid anwes fel rhan o ymgyrch cenedlaethol baw cŵn gan Cadwch Gymru’n Daclus.

Cafodd Darryl Adams ei dderbyn i’r ysbyty yn 2005 ar ôl i styds rygbi wedi eu gorchuddio â baw ci sathru ar ei grimog, ar gae chwarae ym Mlaenau Gwent. Torrodd y styds y croen ar ei grimog ac achosodd y caw ci haint llid yr isgroen.

Dywedodd Darryl Adams: “Roedd yn rhaid i mi dreulio wythnos yn yr ysbyty a dywedodd y meddyg wnaeth fy nhrin, unwaith yr ydych yn cael llid yr isgroen, mae pethau bach yn ei achosi wedyn dro ar ôl tro.

"Daeth yr haint i’r amlwg ddwywaith rhwng 2005 a 2013. Yr achos diwethaf yn 2013 oedd y gwaethaf. Cafodd ei achosi gan ffliw trwm ac roeddwn yn yr ysbyty am bythefnos am fod yr haint wedi mynd i mewn i fy ngwythiennau.

"Ers hynny, nid yw fy nghoes wedi bod yn iawn, mae wedi chwyddo’n barhaus ac mae’n edrych yn ofnadwy – i gyd oherwydd person hunanol na wnaeth drafferthu glanhau ar ôl eu ci! 

Rwy’n cefnogi ymgyrch baw cŵn Cadwch Gymru’n Daclus i annog perchnogion cŵn i wneud y peth iawn a glanhau ar ôl eu hanifeiliaid anwes cyn i fwy o bobl gael niwed difrifol.”

Mae baw cŵn yn dal yn broblem barhaus mewn cymunedau ar draws y wlad. Nod ymgyrch Cadwch Gymru’n Daclus yw codi ymwybyddiaeth o’r peryglon iechyd sydd yn gysylltiedig â baw cŵn. 

Yn ogystal â chario bacteria niweidiol sydd yn gallu arwain at haint, asthma a hyd yn oed dallineb, gall bacteria fyw yn y pridd ymhell ar ôl i’r baw ci bydru.

Dywedodd Lesley Jones, Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus: 

“Rydym yn annog y nifer fach hynny o berchnogion cŵn i wneud y peth iawn a glanhau ar ôl eu hanifeiliaid anwes. Trwy beidio â glanhau ar ôl eich ci, gallech fod yn rhoi pobl mewn perygl.

Mae stori Daryl yn pwysleisio pa mor niweidiol y gall baw cŵn fod i bobl. Nid baw amhleserus yn unig yw baw cŵn. Gall fod yn beryglus. Bagiwch a biniwch a gadewch olion pawennau yn unig pan fyddwch allan.”

Mae’r ymgyrch cenedlaethol yn cael ei gynnal fel rhan o Caru Cymru – mudiad cynhwysol wedi ei arwain gan Cadwch Gymru’n Daclus ac awdurdodau lleol i ysbrydoli pobl i weithredu a gofalu am yr amgylchedd. 

Yn seiliedig ar ymchwil gan arbenigwyr newid ymddygiad, mae arwyddion, posteri, stensiliau pawennau a sticeri biniau pinc llachar yn ymddangos ar draws y wlad i ‘annog’ pobl i wneud y peth iawn.

I ganfod mwy ac i lawrlwytho deunyddiau am ddim, ewch i wefan Cadwch Gymru’n Daclus: www.keepwalestidy.cymru/caru-cymru  

Mae Caru Cymru wedi derbyn cyllid trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.