Winners standing under YFC marquee

Mae'r genhedlaeth nesaf o gynhyrchwyr moch yng Nghymru wedi cael eu cyhoeddi yn Sioe Frenhinol Cymru fel rhan o Gystadleuaeth Pesgi Moch Menter Moch Cymru a CFfI Cymru.

Yn agored i aelodau CFfI ledled Cymru; nod y fenter yw cyflwyno pobl ifanc i ddiwydiant moch Cymru. Mae'r gystadleuaeth flynyddol yn deillio o bartneriaeth rhwng Menter Moch Cymru a CFfI Cymru.
 
Y chwe enillydd yw Rebecca John o Sir Benfro (CFfI Abergwaun), Carys Jones o Sir Gaerfyrddin (CFfI Llangadog), Rhys Morgan o Abertawe (CFfI Gŵyr), Frances Thomas o Aberhonddu (CFfI Pontsenni), yn ogystal â Leah ac Alis Davies o Sir Ddinbych (CFfI Nantglyn). 

Bydd yr enillwyr yn derbyn pum porchell diddwyn i'w magu - gyda phencampwr y gystadleuaeth yn cael ei gyhoeddi yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru ym mis Tachwedd.

Byddant i gyd hefyd yn derbyn rhaglenni hyfforddi pwrpasol a ddyfeisiwyd gan Menter Moch Cymru i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen i sefydlu, rheoli a datblygu'r fenter newydd hon. Bydd yr hyfforddiant yn ymdrin â phob agwedd ar fagu moch, o hwsmonaeth, deddfwriaeth a maeth, i helpu gyda marchnata eu porc. Bydd pob person ifanc hefyd yn derbyn cymorth mentor parhaus drwy brosiect Menter Moch Cymru. 

Dywedodd Rebecca John, ffermwr ifanc o Sir Benfro,

"Pan glywais am gystadleuaeth Menter Moch Cymru, roeddwn yn gwybod bod yn rhaid i mi wneud cais gan ei bod yn swnio fel y man cychwyn delfrydol i mi sefydlu menter dda byw newydd ar y fferm deuluol tra'n cael digon o gefnogaeth ac arweiniad.
Rwyf wrth fy modd fy mod wedi cael fy newis fel un o enillwyr cystadleuaeth Menter Moch. Teimlaf yn ffodus iawn o gael y cyfle i gymryd rhan yn y profiad unigryw hwn!

Alla i ddim aros i'r sesiynau hyfforddi ddechrau ac i’r moch gyrraedd y fferm. Rwy'n arbennig o gyffrous i gystadlu gyda’r moch yn y Ffair Aeaf!"

Dywedodd Carys Jones o CFfI Llangadog ei bod yn ddiolchgar iawn ei bod yn cael y cyfle i gymryd rhan yn y gystadleuaeth ac yn anrhydeddus i fod ymhlith yr enillwyr. Dywedodd,

"O ganlyniad i hyn, rwy'n gweld y cyfle i fagu nifer fach o foch o ddiddyfnu i ddechrau, i besgi fel cyfle dysgu a fydd yn ehangu fy sylfaen wybodaeth cyn mentro i'r sector ar raddfa fwy."

Dywedodd Rhys Morgan, ffermwr ifanc o Abertawe, fod ganddo ddiddordeb mewn dysgu am ychwanegu gwerth at ei gynnyrch a'i farchnata gan ddefnyddio’r sgiliau a ddysgodd wrth astudio'r cyfryngau ar gyfer ei arholiadau Safon Uwch. Meddai,

"Rwy'n falch iawn ac yn freintiedig o fod ymhlith enillwyr y gystadleuaeth hon. Mae gallu cynrychioli Morgannwg, fy sir a Gŵyr, fy Nghlwb Ffermwyr Ifanc lleol, yn anrhydedd mawr."

Dywedodd Frances Thomas o Aberhonddu,

"Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at ddatblygu marchnad ar gyfer fy nghynnyrch porc a defnyddio'r wybodaeth y byddaf yn ei dysgu o'r gweithdai marchnata ar raglen Menter Moch Cymru."

Bydd y chwiorydd Leah ac Alis Davies o CFfI Nantglyn yn rhannu'r cyfrifoldebau magu moch ac yn awyddus i ddysgu gan arbenigwyr yn y diwydiant. Meddai Leah,

"Mae'n anrhydedd bod yn un o'r chwe enillydd eleni. Rydym bob amser wedi bod eisiau cymryd rhan yn y cynllun ond erioed wedi teimlo'n ddigon hyderus na phrofiadol i roi cynnig arni, ond gan mai hon oedd blwyddyn olaf y gystadleuaeth eleni roedd yn teimlo fel y flwyddyn berffaith i wneud hynny.

Mae Alis bob amser wedi bod eisiau cadw moch ond nid yw erioed wedi dod yn realiti. Gyda llawer o berswadio, fe wnaethom uno a dweud y byddem yn ymgeisio gyda'n gilydd ac yn rhannu'r cyfrifoldeb. Rwyf hefyd yn awyddus iawn i fynd i mewn i'r diwydiant marchnata amaethyddol a bydd ennill gwybodaeth am y diwydiant moch ond o fudd i mi yn fy ngyrfa."

Dywedodd Melanie Cargill, Rheolwr Prosiect Menter Moch Cymru,

"Rydym yn falch iawn o fod unwaith eto'n partneru â CFfI Cymru i gynnig cyfle i'w haelodau gael cipolwg ar sector ffermio nad ydynt efallai wedi'i brofi o'r blaen. 
 
"Mae'r gystadleuaeth hon yn gyflwyniad gwych i ffermwyr ifanc sy'n ystyried ymuno â'r sector moch. Maent yn cael profiad ymarferol o fagu moch, tra bydd y gefnogaeth a gynigir gan Menter Moch Cymru yn rhoi sgiliau trosglwyddadwy gwerthfawr iddynt i ddatblygu eu gyrfaoedd ffermio. Hefyd, ar ôl dwy flynedd o gyflwyno rhithwir, bydd yn wych gallu cynnal hyfforddiant ar y fferm eto!"
 
Dywedodd Clare James, Cadeirydd Materion Gwledig CFfI, "Mae cystadleuaeth Pesgi Moch Menter Moch Cymru /CFfI Cymru bob amser yn gystadleuaeth boblogaidd a gwerth chweil, ac yn fenter wych i'n haelodau.

"Mae'n fenter bwysig gan ei bod yn rhoi cyfle i'r rhai sy'n cymryd rhan ddatblygu sgiliau rheoli busnes a da byw, ac rydym yn dymuno pob lwc i enillwyr eleni wrth iddynt ymgymryd â'r fenter newydd hon."

Ariennir Menter Moch Cymru gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.