Ann Lewis with pork joint

Pan werthodd Ann Lewis y darnau cig cyntaf o'i menter moch, Mochyn Mawr, roedd yn foment bwysig iddi.

Gyda chymorth Menter Moch Cymru a'i gweledigaeth a'i gwaith caled hi, lansiodd Ann fenter werthu uniongyrchol a oedd yn ychwanegu gwerth i'w busnes cadw moch yn yr awyr agored ar Fferm Cathelyd Isaf, daliad 50 erw mewn dyffryn afon islaw Craig-cefn-parc, ger Abertawe.

"Mae Menter Moch Cymru wedi bod yn wych, dwi wedi rhyfeddu at y cymorth a'r gefnogaeth a pha mor broffesiynol mae pawb wedi bod," meddai.

Magwyd Ann ar Fferm Cathelyd Isaf ond fe'i denwyd i ffwrdd o'r ardal am nifer o flynyddoedd i ddilyn gyrfa lwyddiannus yn y sector technoleg gwybodaeth, gan weithio yn Swindon a Swydd Northampton, ond yn 2006, dychwelodd i'w chartref genedigol.

"Roeddwn i wastad yn gwybod y byddwn i'n dod yn ôl,'' mae'n cyfaddef. 

Cyn pen ychydig flynyddoedd, trist nodi y bu farw rhieni Ann a phenderfynodd ymgymryd â'r gwaith o redeg y fferm.

Roedd yn rhaid i'r fenter dalu ffordd, felly aeth ati i roi stoc ar y fferm, sef gwartheg, defaid, ieir – a gyda chenfaint o foch o frîd brodorol, a gedwir dan system awyr agored lle y gallant gael mynediad i goetir er mwyn porthi.

Nid oedd Ann yn dymuno dilyn proses fodern o gadw moch, lle y mae hychod yn porchella sawl gwaith y flwyddyn, felly dewisodd fridiau traddodiadol sy'n tyfu'n araf, gyda'r bwriad o farchnata cig i gwsmeriaid yn uniongyrchol.

Dyma lle y gwelwyd cyfraniad Menter Moch Cymru.

Cynlluniwyd y prosiect hwn i gynorthwyo a datblygu'r diwydiant moch yng Nghymru ac roedd Ann wedi ei ddefnyddio fel sbardun er mwyn manteisio ar gymorth a gwybodaeth i ddatblygu ei busnes.

Cafodd gymorth i greu gwefan, platfform gwerthu ar-lein a logo, ynghyd â grant o £750 ar gyfer deunydd marchnata.

Mae'n disgrifio'r hyfforddiant marchnata digidol a gafodd fel un "amhrisiadwy'.

"Mae gen i gefndir mewn TG ond fe ddysgais i gymaint yn ystod y pedair sesiwn yna.''

Cynigiwyd cymorth er mwyn labelu cynnyrch hyd yn oed. “Cynhaliodd Menter Moch Cymru webinar gydag arbenigwr labelu, lle y cynigiwyd cyngor megis sicrhau bod y labeli yn ddigon da i wrthsefyll y tymheredd mewn rhewgell, pethau na fyddwn i wedi meddwl amdanynt.  Roedd y cyllid a gefais wedi talu am fy set gyntaf o labeli hyd yn oed,” dywedodd Ann.

Ers iddi gofrestru gyda Menter Moch Cymru, mae hi wedi mynychu wyth sesiwn hyfforddiant am wahanol faterion.

Yn ogystal, mae Ann wedi cael cyfle i weld sut y mae busnesau eraill sy'n cadw moch yn yr awyr agored yn rhedeg eu systemau nhw, diolch i daith o gwmpas ffermydd yn Nyfnaint ym mis Mawrth 2022, a ariannwyd gan Menter Moch Cymru. Nid yn unig y cafodd gyfoeth o wybodaeth gwerthfawr o'r ffermydd yr ymwelodd â nhw, ond ffurfiodd gysylltiadau gyda ffermwyr moch eraill yng Nghymru a oedd yn cymryd rhan yn yr ymweliad astudio hefyd.

“Roedd ffermwyr moch o bob rhan o Gymru ar yr ymweliad hwnnw, roedd wedi ein dwyn ynghyd ac rydym wedi cadw mewn cysylltiad ers hynny,” dywedodd Ann.

Bellach, mae hi'n ystyried cyflwyno rhai o'r syniadau a welodd yn ystod yr ymweliad hwnnw ar ei fferm hi.

O ganlyniad uniongyrchol i'r ymweliad hwnnw, penderfynodd ailhadu cae yn ddiweddar gyda chymysgedd o hadau ar gyfer tir pori moch, a oedd yn cynnwys rêp porthiant, bresych deiliog, maip sofl, pupys a rhygwellt.

Trwy gyfrwng Menter Moch Cymru, cafodd Ann Gynllun Iechyd Cenfaint hefyd, a ariannwyd  yn llawn, sef menter a gynlluniwyd i feithrin perthynas waith agos rhwng ffermwyr a milfeddygon.

“Nid ydym yn weithrediad masnachol mawr ac mae ein defnydd o wrthfiotigau yn gyfyngedig iawn oherwydd y ffordd yr wyf yn magu'r moch – dim ond os bydd mochyn wedi cael ei anafu neu'n sâl y byddwn yn defnyddio gwrthfiotigau – ond mae cael cynllun iechyd cenfaint a chymorth y milfeddyg a chael cyngor am faterion fel bioddiogelwch yn cynnig cysur,” dywedodd Ann.

Ariennir prosiect Menter Moch Cymru gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.