Hengwrt Farm

Mae Huw Alun Evans, yn un o dros 20 o fridwyr defaid mynydd Cymreig, sy’n cymryd rhan mewn prosiect amgylcheddol arloesol i weld sut mae ei stoc yn cydweithio gyda bioamrywiaeth ar ei fferm yng Ngwynedd.

Bydd y cynllun archwilio amgylcheddol a lansiwyd yn ystod yr haf yn gwerthuso sefyllfa a nodweddion amgylcheddol ffermydd ucheldir Cymru gan weld a oes lle i wella ymhellach.

Mae Huw a’i fab Rhys yn rhan o Gynllun Hyrddod Mynydd Hybu Cig Cymru a bachodd y teulu ar y cyfle i gymryd rhan yn yr archwiliad bioamrywiaeth oherwydd “allwch chi ddim rheoli’r hyn nad ydych wedi ei fesur” yw barn Rhys ar y mater.

Mae Huw, gyda'i wraig Rhianwen a dau o'u tri mab Huw Ynyr a Rhys yn ffermio 300 erw yn Hengwrt, Rhydymain ger Dolgellau.

Mae'r fferm yn ymestyn o 400 i 2400 troedfedd i gopa mynydd Y Rhobell Fawr ar ran gorllewinol mynyddoedd yr Arenig.

Wrth wyna eu defaid mynydd Cymreig teip Meirionnydd allan yn y caeau gwaelod, mae’r praidd yn cael eu symud i'r mynydd wedi wyna. Bydd 100 o ŵyn benyw yn symud i dir cadw ar y gororau, tra bod y cyfnod ŵyna yn dechrau yn Hengwrt ym mis Ebrill.

Yn ôl Rhys: “Os oes gennych chi fioamrywiaeth ac amgylchedd ffyniannus, yna mae cyflwr eich adnoddau naturiol chi yn gryf a dyna sy’n rhoi’r sylfaen i chi gynhyrchu bwyd.

“Rydyn ni’n weddol hyderus bod ein bioamrywiaeth ni yn dda yn Hengwrt, ond mae angen ei fesur er mwyn i ni allu ei gynnal, a gobeithio ein galluogi i wella ymhellach.

“Rydyn ni’n ceisio ffermio o fewn gallu naturiol y tir, gan ddefnyddio stoc gynhenid, peidio â gorstocio. Mae’n bwysig gweithio o fewn gallu cynhyrchu naturiol y fferm, heb amharu ar fywyd gwyllt a’r amgylchedd.

“Rydyn ni'n prynu ychydig o borthiant a gwrtaith ond rydyn ni’n edrych ar ffyrdd o leihau ein dibyniaeth arnyn nhw, yn enwedig o ystyried y cynnydd enfawr mewn costau ar hyn o bryd,” eglura Rhys.

Mae ŵyn Hengwrt yn cael eu gwerthu ar y bach gyda rhywfaint o stoc bridio yn cael eu gwerthu oddi ar y fferm a mamogiaid yn cael eu gwerthu yn dair a phedair oed i fridio ymhellach yn y farchnad leol bob hydref.

Ers 2018, mae ffermwyr y Cynllun Hyrddod Mynydd wedi bod yn defnyddio technoleg sy’n seiliedig ar DNA i gofnodi perfformiad hyrddod mynydd, gan alluogi ffermwyr i ddefnyddio data genetig i ddewis a dethol wrth fridio a gwella perfformiad masnachol y fferm a chynaliadwyedd amgylcheddol y tir.

Yn ôl Huw Alun: “Mae’r cynllun wedi rhoi’r offer a’r arbenigedd i ni ddefnyddio’r data rydyn ni’n ei gasglu i adnabod y mamogiaid sy’n perfformio waethaf fel ein bod yn gwella perfformiad y ddiadell yn gyffredinol.

“Mae ein buches o wartheg Duon Cymreig cynhenid yn ddisgynyddion i stoc fy nhaid, a brynwyd pan brynodd o Hengwrt ym 1927. Rydym yn falch iawn o linach y gwartheg.”

Amcangyfrifir bod ychydig o dan 10% o’r fferm yn Hengwrt yn goetir, gyda mwy nag 20% o goed ar y caeau gwaelod yn unig, sy’n creu hafan i stoc yn ystod misoedd y gaeaf a chysgod yn ystod yr haf.

Mae nentydd a phyllau bach yn britho’r fferm ynghyd â choridorau o wrychoedd a blannwyd fel rhan o gynllun Parc Cenedlaethol Eryri yn y blynyddoedd diwethaf.

Mae'r amrywiaeth o blanhigion a blodau yn amrywio o fewn y dolydd gwair, y caeau pori ac ardaloedd mynyddig y fferm. Mae grug, tegeirianau gwyllt, gwlithlys, hesg a theim gwyllt i enwi dim ond rhai, yn denu gwenyn, trychfilod, adar a mamaliaid bach.

Yn ôl Rhys wrth gloi: “Rydyn ni’n edrych ymlaen yn arw at weld yr adroddiad bioamrywiaeth. Dwi’n meddwl bod cyfle enfawr i ni, fel diwydiant, arddangos i’r byd sut mae ffermio’n gynaliadwy. Rydyn ni'n barod ar gyfer yr her ac yn awyddus i fod yn rhan o'r ateb nid y broblem.”

Mae Cynllun Hyrddod Mynydd Hybu Cig Cymru yn un o dri phrosiect pum mlynedd o fewn y Rhaglen Datblygu Cig Coch, a ariennir gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.