Rhiannon Davies

Mae merch fferm wedi sefydlu menter pesgi moch a busnes gwerthu cig yn uniongyrchol, diolch i fenter newydd Menter Moch Cymru a ddarparodd bump o berchyll diddwyn iddi.

Derbyniodd Rhiannon Davies y moch a hyfforddiant o safon uchel a mentora un-i-un ar bynciau’n amrywio o’u rheolaeth o ddydd i ddydd i farchnata eu cig ar ôl ennill cystadleuaeth pesgi moch a gynhaliwyd gan Menter Moch Cymru a CFfI Cymru.

Daeth y fenter i ben gyda hi yn arddangos yr anifeiliaid yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru.

Dywed Rhiannon, a gafodd ei magu ar fferm bîff a defaid ac sy’n aelod o CFfI Caerwedros, fod y gefnogaeth hon wedi bod yn gatalydd pwysig i’w rhoi ar ben ffordd mewn ffermio moch.

“Roeddwn i bob amser eisiau cadw moch ond doeddwn i erioed wedi cael unrhyw brofiad o weithio gyda nhw felly roedd cael y cyfle i roi cynnig arni gyda’r fantais o gael rhwydwaith o gefnogaeth yn hynod werthfawr.

“Pan rydych chi’n dechrau unrhyw beth newydd mae’n rhaid i chi ddysgu wrth fynd ymlaen ond diolch i Menter Moch Cymru roedd rhywun wastad yno os oedd gen i gwestiwn angen ei ateb.’’

Darparodd Menter Moch Cymru hyfforddiant mewn sawl maes, gan gynnwys materion rheoleiddio fel cydymffurfio â’r rheolau sy’n ymwneud â theithio ag anifeiliaid.

Roedd cyflwyniad Rhiannon i gynhyrchu moch mor llwyddiannus fel ei bod, cyn i’r pum mochyn cyntaf hynny gael eu gwerthu, wedi prynu pedwar porchell diddwyn arall ac ers hynny mae wedi lansio busnes gwerthu cig yn uniongyrchol, Cig Banc Sion Cwilt, ar fferm y teulu yn Nhalgarreg ger Llandysul.

Mae hi'n prynu pum swp o berchyll diddwyn y flwyddyn, pob un wedi'i fridio yng Ngheredigion a'i brosesu yn lladd-dy Tregaron.

“Roeddwn i’n awyddus iawn i’r moch gael eu geni, eu magu a’u prosesu yng Ngheredigion,’’ eglurodd.

Caniataodd y gystadleuaeth iddi ddewis brid a dewisodd fochyn Cymreig. Ers hynny mae hi wedi newid i foch croesfrid Cymreig a Pietrain, a Saddleback a Pietrain i leihau amserau gorffen.

Mae'r anifeiliaid yn cael eu pesgi ar system wellt mewn siediau ar fferm gyfagos ei brawd ar ddiet o wenith a haidd o fferm yng Ngheredigion, gan anelu at bwysau lladd o 70-75kg pwysau byw ar gyfer moch sy’n cael eu magu i gynhyrchu porc ac 80-90kg ar gyfer moch sy'n cael eu magu i gynhyrchu bacwn.

Mae Rhiannon wedi adeiladu rhwydwaith cryf o gwsmeriaid. “Mae gen i gymaint o gwsmeriaid sy’n dychwelyd sy’n braf oherwydd mae’n golygu eu bod nhw’n hapus gyda’r cynnyrch.’’

Pan lansiodd y busnes hwnnw, camodd Menter Moch Cymru i’r adwy unwaith eto gyda llawer o gyfleoedd ar gyfer hyfforddiant mewn sgiliau fel marchnata a hyd yn oed ffotograffiaeth cynnyrch.

“Roedd cymaint o gyrsiau ac fe wnaeth hynny gyflymu fy ngwybodaeth na fyddwn i wedi’u cael oni bai am Fenter Moch Cymru,’’ meddai.

Gwerthir y cig mewn bocsys yn amrywio o fochyn cyfan i becyn teulu.

Mae Rhiannon bellach yn rhan o grŵp trafod sy’n cael ei hwyluso gan Fenter Moch Cymru sy’n rhoi cyfle iddi gwrdd â chynhyrchwyr moch eraill ar eu ffermydd eu hunain ac i ddysgu a rhannu syniadau – mae rhai hyd yn oed wedi sefydlu cigyddiaeth ar eu fferm.

Mae hi hefyd yn meincnodi ar ôl ymuno â rhaglen ar-lein ‘Mesur i Reoli’ Menter Moch Cymru a Cyswllt Ffermio i gymharu perfformiad ei busnes ag eraill.

“Mae’n arbennig o bwysig nawr, i gael y ffigurau hynny o’ch blaen, oherwydd mae cost porthiant bron wedi dyblu ac mae angen i ni sicrhau ein bod yn parhau i fod yn effeithlon ac yn broffidiol.’’

Mae Rhiannon hefyd yn gweithio’n llawn amser, fel swyddog datblygu i Cyswllt Ffermio yn ne Ceredigion, felly i’w helpu i gydbwyso’r busnes moch gyda’i hymrwymiadau gwaith mae ei rhieni, John ac Audrey, a’i brawd, Bleddyn, wedi dod yn bartneriaid busnes iddi.

“Mae gennym ni i gyd ein cryfderau a’n gwendidau felly rydyn ni i gyd yn dod â rhywbeth gwahanol i’r busnes,’’ meddai Rhiannon.

Bellach mae cynlluniau i dyfu'r busnes i ymgorffori cigoedd eraill yn y cynllun bocsys. “Mae cymaint o’r sgiliau a’r wybodaeth rydw i wedi’u hennill drwy Menter Moch Cymru yn drosglwyddadwy a byddan nhw’n fy helpu i dyfu’r busnes wrth symud ymlaen,” meddai Rhiannon.

Ariennir Menter Moch Cymru gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.