Glenn Lloyd and Helen Mathieu

Mae defnyddio dull o drin y tir cyn lleied â phosib (min-till) i sefydlu gwndwn aml-rywogaeth mewn porfa barhaol wedi adfywio gwyndonnydd fferm laeth organig yn Sir Drefaldwyn, gan gynyddu’r cynnwys rhygwellt parhaol yn y gwndwn o 30%, a rhoi hwb i gynnwys meillion gwyn, hefyd.

Mae’r teulu Lloyd wedi bod yn ffermio’n organig yn Gate Farm, Llandysul ers 2015, gan ddefnyddio system sy’n golygu cynhyrchu cymaint â phosib o laeth o laswellt; mae eu buches sy’n cynnwys 170 o wartheg Friesian Holstein yn cynhyrchu, ar gyfartaledd, tua 6,600 litr y flwyddyn, gyda 4,100 o’r litrau hynny’n dod o borthiant.

Mae aredig wedi cael ei ddefnyddio’n draddodiadol yn rhaglen ail-hadu’r fferm, ond, yn awyddus i dreialu technegau sy’n golygu amharu cyn lleied ag y bo modd ar y pridd, dechreuodd Glenn Lloyd, ffermwr trydedd genhedlaeth, ar brosiect fferm ffocws Cyswllt Ffermio i ymchwilio i sut y gellid defnyddio technegau trin y tir cyn lleied â phosib (min-till) i wella’r amrywiaeth o fewn porfa barhaol.

Gan fod y fferm yn organig, ni ellir defnyddio chwynladdwr cyn hadu, ac roedd y gwellt trwchus ar waelod y glaswellt 30 oed yn her. 

Dywedodd Helen Mathieu o Germinar, a ddarparodd fewnbwn technegol i’r prosiect, fod hen borfeydd parhaol yn elwa o driniaeth chwynladdwr oherwydd bod angen lladd hen chwyn glaswellt a gweiriau er mwyn caniatáu lle ar gyfer rhygwellt parhaol newydd.

Mewn system lle na ellir cymhwyso hyn, dywedodd Ms Mathieu ei bod yn bwysig defnyddio’r dril hadau cywir ar gyfer y swydd.

Ar gyfer prosiect Gate Farm, defnyddiwyd peiriant hau Guttler Greenmaster 300. 

Dywedodd Mr Lloyd ei fod wedi bod yn her a hanner, i dros-hau tir pori barhaol gyda gwellt trwchus. “Roedd yn ofyn mawr, ond roedd yn wefreiddiol gwylio’r peiriant yn gweithio; fe rwygodd drwy’r gwellt, mewn gwirionedd.”

Cafodd y cae ei dros-hau gyda chymysgedd o lyriad, ysgall y meirch, meillion coch a gwyn a rhygwellt parhaol ddiwedd Gorffennaf, pan oedd yr amodau’n sych iawn. 

Roedd perfformiad y gwanwyn canlynol yn wefreiddiol, meddai Mr Lloyd. 

“Mae’r twf yn ystod y gwanwyn a diwedd yr hydref wedi bod yn eithriadol,” meddai wrth ffermwyr a fynychodd ddiwrnod agored Cyswllt Ffermio yn Gate Farm yn ddiweddar.

Roedd ganddo orchudd agoriadol o 3,100kgDM/ha pan gafodd ei bori ddiwedd mis Chwefror. Roedd y cynnwys rhygwellt yn y cae, a oedd yn arfer bod â chyfran uchel o weunwellt, wedi cynyddu 30% o leiaf. Ond gwael fu sefydlu’r perlysiau a chodlysiau – roedd y cynnwys ysgall y meirch a llyriad yn brin. 

“Mae’r llysiau wedi cael trafferth fawr gyda’r borfa barhaol”, meddai Ms Mathieu.

Dywedodd y byddai tros-hau gyda pherlysiau yn fwy llwyddiannus mewn porfa bedair neu bum mlwydd oed. “Mae cyflwr y borfa, y math o ddril a ddefnyddir a’r tywydd ar y pryd i gyd yn ffactorau pwysig ar gyfer tros-hau”, ychwanegodd. 

“Os yw’n sych iawn ganol yr haf a bod cyswllt da rhwng hadau â gronynnau pridd, mae’n debygol o fod yn fwy llwyddiannus; mae perlysiau a chodlysiau yn hoffi cael eu plannu mewn da bryd, erbyn canol mis Awst fan bellaf.”

Er bod canlyniadau’r prosiect trin y tir yn cyn lleied â phosib yn Gate Farm wedi bod yn gymysg, dywedodd Mr Lloyd fod y prosiect wedi rhoi’r hyder iddo gynnwys y dechneg hon yn ei becyn cymorth ar gyfer trin y tir wrth symud ymlaen. 

“Mae wedi profi ei fod yn bosib, ond efallai bod angen awyru’r pridd hefyd, er mwyn cael canlyniad gwell,” meddai.

Mae Mr Lloyd hefyd yn anelu at leihau dibyniaeth y fferm ar borthiant a brynir i mewn, ac fel prosiect Cyswllt Ffermio arall, tyfodd 11 erw o fresych gan ddefnyddio technegau sefydlu confensiynol a thrin y tir cyn lleied â phosib.

Dewisodd Redstart, sef math o gnwd bresych hybrid sy’n tyfu’n gyflym ac yn egnïol, ac mae’n cynnig opsiynau pori o fis Gorffennaf i tua diwedd Ionawr, gan ddibynnu ar y dyddiad hau.

Cafodd y cnwd ei bori gan 28 o heffrod oedd yn gyflo, pob un â gofyniad cymeriant deunydd sych dyddiol o 12kg. Darparodd y cnwd 7kg a silwair byrnau crwn o 5kg.

Cyfrifodd Ms Mathieu fod y cnwd confensiynol wedi tyfu 3tDM/ha o borthiant ar 15-18% o brotein a 12ME ar gost o 4c/kg, ac ymestynnodd y tymor pori 70 diwrnod. 

Er i’r cnwd a gafodd ei sefydlu’n gonfensiynol dyfu’n dda, roedd y perfformiad yn wael yn y rhan o’r cae lle defnyddiwyd y dechneg trin y tir cyn lleied â phosib i blannu’r hadau ar dir pori parhaol.  

“Rwy’n meddwl bod y prosiect hwn wedi dangos bod trin y tir yn gonfensiynol yn well ar gyfer tyfu cnydau bresych, gan eu bod yn elwa o gael gwely hadau mân, cadarn a glân,” meddai Ms Mathieu.

FFEITHIAU AM Y FFERM

Y tir sy’n cael ei ffermio – berchen ar 97ha a rhentu 57ha 

Mae’r priddoedd ar gyfartaledd yn 6.5-7 pH a mynegai yn 3 ar gyfer ffosfforws a photasiwm  

Fferm yn codi o 550 i 900 troedfedd 

50% o laeth yn cael ei werthu i OMSCo a 50% yn uniongyrchol trwy Daisy Bank Dairy

1.3t o ddwysfwyd/fuwch yn cael ei fwydo

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.