LG

Diolchodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, i bawb sydd wedi rhoi o'u hamser i ymateb i'r ymgynghoriad ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Mae hi wedi ailddatgan ymrwymiad y Llywodraeth i gefnogi ffermio fel ffordd allweddol i fynd i’r afael â’r argyfwng natur a’r argyfwng hinsawdd sy’n bygwth gallu cenedlaethau’r dyfodol i gynhyrchu’r bwyd y bydd ei angen arnynt.

Dywedodd y Gweinidog: 

Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn, neu a fynychodd un o'n sioeau teithiol.

Caiff pob ymateb i’r ymgynghoriad ei ystyried yn ofalus.

Mae enghreifftiau niferus o ffermio a chynhyrchu bwyd heb eu hail yng Nghymru a chredwn fod yn rhain i ni gefnogi mwy o ffermwyr i gyflawni’r safonau uchel hynny er mwyn sicrhau dyfodol cynaliadwy i’n cymunedau gwledig a’n gwlad yn gyffredinol. Byddwn yn defnyddio’r holl gyfraniadau gwerthfawr sydd wedi dod i law yn ystod yr ymgynghoriad er mwyn ystyried y ffordd orau bosibl o gyflawni hyn.

Bydd pob ymateb i'r ymgynghoriad a ddaw i law, gan gynnwys yr holl faterion gafodd eu codi a'u trafod yn 10 Sioe Deithiol Llywodraeth Cymru yn ystod y cyfnod ymgynghori, yn cael eu dadansoddi a'u hystyried yn briodol. Byddwn yn cyhoeddi'r dadansoddiad hwnnw a chrynodeb o'r ymatebion yn nes ymlaen yn y Gwanwyn. Byddwn yn mynd ati yn awr i fwrw ymlaen â’r gwaith a nodwyd yn y Datganiad Ysgrifenedig a gyhoeddwyd ar 27 Chwefror.

Rwyf wedi nodi'n glir fy mod yn disgwyl i newidiadau gael eu gwneud i'r cynigion o ganlyniad i'r ymgynghoriad fel y gallwn gefnogi yn y ffordd orau bosibl y broses o newid i ffermio mwy cynaliadwy yng Nghymru, yn unol â’n hamgylchiadau presennol. Ni fydd unrhyw benderfyniad ar unrhyw elfen o'r cynnig, gan gynnwys sut rydym yn cyflawni'r gofyniad am gynefinoedd a choed, yn cael ei wneud nes ein bod wedi cynnal dadansoddiad llawn o'r ymatebion i'r ymgynghoriad.

Ein nod yw sicrhau dyfodol llwyddiannus i Gymru ac i’n ffermwyr. Rydym eisiau parhau i gynhyrchu bwyd mewn modd cynaliadwy yn y dyfodol, gan ddefnyddio dulliau y mae nifer o ffermwyr eisoes yn eu harfer ledled Cymru. Gall cynhyrchu bwyd mewn modd cynaliadwy sbarduno manteision ychwanegol gan gynnwys gwelliannau i effeithlonrwydd busnesau, ansawdd dŵr a bioamrywiaeth a fydd yn eu tro yn sicrhau y gall bwyd barhau i gael ei gynhyrchu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Dyma fanteision i’r gymdeithas ehangach a chredwn ei bod yn gwbl briodol neilltuo arian cyhoeddus ar gyfer ffermio oherwydd y gwerth cymdeithasol sydd ynghlwm wrth y gwaith.

Hoffwn sicrhau pawb sydd wedi cymryd rhan yn yr ymgynghoriad - rydym yn gwrando a byddwn yn ystyried pob barn a leisiwyd. Mae'n rhaid i ni gael hyn yn iawn – mae dyfodol cynhyrchu bwyd yng Nghymru yn dibynnu arno.