Math o ddigwyddiad:
Hybrid
Dyddiad ac amser:
9:30 - 16:15
Lleoliad:
Bangor University, Neuadd Reichel, Bangor, LL57 2TR
E-bost:
Ffôn:
0300 062 5169
Woodland & forestry

I'r rhai sy'n ymuno â ni'n bersonol, cyrhaeddwch am 09:30 er mwyn cofrestru a chael lluniaeth.  Bydd y digwyddiad yn dechrau am 10:00.  Darperir cinio bys a bawd.  Bydd y digwyddiad yn cau am 16:15.  

Pwrpas y digwyddiad:

  • Y digwyddiad hwn yw'r cyntaf mewn cyfres i rannu canfyddiadau ymchwil sy'n berthnasol i goedwigaeth Cymru a'r diwydiant pren. 
  • Bydd Forest Research yn cyflwyno canfyddiadau ymchwil diweddar a pharhaus.  Ymhlith y siaradwyr eraill mae Cyfoeth Naturiol Cymru, Confor, Woodknowledge Cymru a Llywodraeth Cymru. 

Bydd y pynciau yn cynnwys:

  1. ddulliau cwympo ac ailstocio i gynnal / cynyddu cynhyrchiant
  2. addasu newid hinsawdd a gwytnwch
  3. arallgyfeirio rhywogaethau'r dyfodol 
  4. Lliniaru Newid Hinsawdd a Manteision Carbon Coedwigaeth
  5. Mae'r digwyddiad Cyfnewid Gwybodaeth hwn yn cynnig cyflwyniadau, stondinau arddangos a chyfleoedd rhwydweithio.

Mae'r digwyddiad yn cael ei gynnal gan: 
Nicolas Turner, Pennaeth Diwygio Coedwigaeth, Llywodraeth Cymru a 
Tom Jenkins MBE, FICFor, Pennaeth Ymchwil Coedwigaeth yng Nghymru.

Gweler isod recordiadau fideo o ddigwyddiad y diwrnod:

Fideo 1 - Sesiwn gyntaf y dydd:

Fideo 2 - Canol bore i sesiwn amser cinio:

Fideo 3 - Sesiwn gyntaf y prynhawn:

 

Fideo 4 - Sesiwn olaf y dydd:

Dyma restr o siaradwyr:

Forest Research 

Dr Gail Atkinson – Pennaeth Gwyddoniaeth Newid Hinsawdd, Forest Research 

Saesneg yn unig


Teitl: Addasu gwaith rheoli coedwigoedd a choetiroedd i'r hinsawdd newidiol - Cyflwyno'r 'Canllaw Ymarfer ar addasu coetiroedd i hinsawdd sy'n newid' a Hyb Newid Hinsawdd FR.

Chris Reynolds – Arweinydd Prosiect Coedamaeth, Forest Research

Saesneg yn unig


Teitl: Rhywogaethau coed amgen i Gymru - rhaglen rhywogaethau newydd Forest Research ac arallgyfeirio rhywogaethau i gynnal a chynyddu cynhyrchiant.

Robert Matthews – Pennaeth Grŵp Gwyddoniaeth Mesur, Modelu a Darogan Coedwigoedd, Forest Research 

Saesneg yn unig


Teitl: Meintioli'r cylch carbon coedwigaeth gynaliadwy - y potensial ar gyfer atafaelu carbon, ac allyriadau nwyon tŷ gwydr sy'n cael eu hosgoi drwy ddefnyddio cynhyrchion pren wedi'u cynaeafu yn lle deunyddiau eraill, y gellid eu gwireddu drwy greu gwahanol fathau o goetiroedd.

Dr Roger Moore – Uwch-entomolegydd, Forest Research

Saesneg yn unig


Teitl: Hylobius: y broblem a'i rheolaeth - gan gynnwys amddiffyn planhigion trwy ddefnyddio pryfleiddiaid, gadael y tir yn wyndwn, a bioreoli

Cyfoeth Naturiol Cymru

StJohn Ashworth, Rheolwr Gwerthu a Marchnata Pren: Cynlluniau peilot diweddar o ddulliau gwerthu pren amgen. 

Saesneg yn unig

Andrew Wright, Uwch Gynghorydd Arbenigol - Iechyd Planhigion a Throsglwyddo Gwybodaeth: Cynaeafu a heriau'r hinsawdd sy'n newid.

Saesneg yn unig

Woodknowledge Wales
Gary Newman, Prif Weithredwr: mewnbwn o waith Woodknowledge Cymru, gan gynnwys prosiect Cartrefi o Bren Lleol 2.

Saesneg yn unig

Confor (Cydffederasiwn y Diwydiannau Coedwigoedd)

Elaine Harrison, Rheolwr Cenedlaethol Cymru, yn cynnal sesiwn Mewnbwn Diwydiant.  Mae aelodau'r panel yn cynnwys Ben Goh, Rheolwr Masnachol, Maelor Forest Nurseries Ltd.

Saesneg yn unig

 

Saesneg yn unig

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at:  Pren.Timber@llyw.cymru 

Cofrestrwch eich presenoldeb yma

Gail Atkinson photo

Dr Gail Atkinson – Pennaeth Gwyddoniaeth Newid Hinsawdd, Forest Research Gail sy'n arwain y Grŵp Ymchwil Newid Hinsawdd yn Forest Research. Mae ei diddordebau ymchwil yn rhychwantu strategaethau addasu amgen i ymateb i'r risgiau a'r cyfleoedd a ddaw o hinsawdd y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys datblygu meysydd arddangos addasu i newid hinsawdd, canllawiau, astudiaethau achos a chydweithio i gefnogi'r defnydd o arfer addasol ar draws y sector coedwigaeth. Mae gan Gail radd BSc Anrhydedd mewn Gwyddor yr Amgylchedd (Prifysgol Plymouth), MSc mewn Rheolaeth Amgylcheddol (Prifysgol Surrey), a Doethuriaeth Peirianneg (EngD) o Brifysgol Surrey ar wella'r gwaith o greu mannau gwyrdd ar dir llwyd. Cyn hynny bu'n gweithio i Asiantaeth yr Amgylchedd a'r Comisiwn Coedwigaeth.

Chris Reynolds photo (002)

Chris Reynolds – Arweinydd Prosiect Coedamaeth, Forest Research
Mae Chris yn goedwigwr sydd â mwy na 30 mlynedd o brofiad o weithio gyda'r Comisiwn Coedwigaeth a Forest Research. Dros y cyfnod hwnnw, mae wedi rheoli coetir ar yr ystâd goed gyhoeddus; ymchwilio i dechnegau paratoi'r tir wrth adfer tir ar gyfer coedwigaeth; wedi bod yn gurad yn Bedgebury National Pinetum yng Nghaint, a chynghori perchnogion coetir fel Swyddog Coetir yn ymwneud â grantiau a rheoliadau. Bellach wedi'i leoli yng Ngorsaf Ymchwil Alice Holt fel Arweinydd Prosiect yn y grŵp Nodweddion Coedamaeth a Phren, mae'n arwain rhaglen Rhywogaethau Newydd FR i ymchwilio i darddiadau a rhywogaethau posibl ar gyfer y defnydd o goedwigaeth yn y dyfodol mewn hinsawdd sy'n newid.

Robert Matthews picture

Robert Matthews – Pennaeth Grŵp Gwyddoniaeth Mesur, Modelu a Darogan Coedwigoedd, Forest Research.
Robert sy'n arwain y grŵp Gwyddoniaeth Mesur, Twf a Chynnyrch Coedwigoedd yn Forest Research, lle bu'n gweithio ers dros 35 mlynedd. Mae ei Grŵp Gwyddoniaeth yn datblygu dulliau ac offer ar gyfer mesur a rheoli coedwigoedd sy'n cael eu defnyddio'n ddyddiol yn y sector coedwigoedd. Mae Robert wedi gwneud cyfraniad blaenllaw at ddeall cydbwysedd carbon coedwigoedd, gan gynnwys rheoli coedwigoedd a chynhyrchion pren i liniaru newid yn yr hinsawdd. Mae ganddo radd anrhydedd mewn bioffiseg o Brifysgol East Anglia ac MSc ymchwil mewn biobeirianneg o Brifysgol Birmingham, ac mae wedi gwasanaethu fel Golygydd Adolygu, Awdur Arweiniol ac Awdur Cyfrannol ar gyfer adroddiadau a gynhyrchwyd gan y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd.

Roger Moore photo (002)

Dr Roger Moore – Uwch-entomolegydd, Forest Research
Mae Dr Roger Moore yn uwch-entomolegydd sydd â mwy na 35 mlynedd o brofiad yn gweithio ar blâu pryfed mewn coedwigoedd. Am y 30 mlynedd diwethaf mae wedi arwain y rhaglen ymchwil ar widdonyn mawr y pinwydd, Hylobius abietis. Mae'r ymchwil hon wedi ei alluogi i ddatblygu dau ddull allweddol i helpu'r diwydiant coedwigaeth i frwydro yn erbyn Hylobius: y strategaeth gadael y tir yn wyndwn, a System Gymorth Rheoli Hylobius (HMSS). Mae wedi arwain treialon yn profi pryfleiddiaid newydd amgen, haenau a rhwystrau planhigion i amddiffyn coed ailstocio coedwig rhag Hylobius, ac i ddisodli pryfleiddiaid sy'n gadael. Mae ei ffocws presennol ar reoli Hylobius yn fiolegol gan ddefnyddio nematodau a ffyngau entomopathogenig (EPF / EPN). Mae'n rhan o'r tîm Iechyd Coed sydd wedi'i leoli yng Ngorsaf Ymchwil y Gogledd Forest Research. 

Gary Newman (002)

Gary Newman, Prif Weithredwr, Woodknowledge Wales
O ran ei hyfforddiant a’i yrfa gynnar, peiriannydd adeiladu yw Gary. Ar ôl cwblhau gradd Meistr ym maes gwyddorau coed ym Mhrifysgol Bangor, sefydlodd Gary Plant Fibre Technology ac mae o wedi chwarae rhan allweddol mewn datblygu nifer o gynhyrchion sy’n seiliedig ar ddeunydd biolegol, o’r cysyniad gwreiddiol i’r farchnad. Mae Gary hefyd yn sylfaenydd ac yn Gadeirydd y Cynghrair dros Gynhyrchion Adeiladu Cynaliadwy, ac yn gyfarwyddwr Cynghrair yr Economi Sylfaenol.

Profile Photo Elaine Harrison

Elaine Harrison, Rheolwr Cenedlaethol Cymru, Confor (Cydffederasiwn Diwydiannau Coedwigoedd)
Astudiodd Elaine ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn yr Adran Amaethyddiaeth, ym maes Rheoli Cefn Gwlad. Ar ôl graddio, symudodd i’r sector garddwriaethol masnachol. Roedd hyn yn cynnwys: gweithio ar diroedd, rheoli contractau, arolygon coed, rheoli coed hynod, tendrau ac ati. Ac wedyn, ar ôl cael ei dau fab, roedd Elaine eisiau gweithio ym maes coedwigaeth, sef ei bwriad gwreiddiol. Cafodd swydd gyda Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ym maes Cynaeafu a Marchnata (WHaM) fel rheolwr contractau cynaeafu. Yn dilyn hynny, ar ôl dylunio’r sefydliad, roedd Elaine nid yn unig yn cyflenwi gwaith yng nghyswllt cynaeafu, ond hefyd o ran ailstocio a sefydlu coed. Fe’i dyrchafwyd i swydd uwch swyddog a oedd yn gyfrifol am waith cynllunio strategol y rhaglen coedwigoedd a gweithrediadau, ac yna bu’n gweithio fel Arweinydd Tîm, yn rheoli 8 coedwigwr a oedd yn cyflenwi gwaith ym maes gweithrediadau Coedwigoedd. Bu Elaine yn cynrychioli CNC ar weithgor llifiau cadwyn FISA, a bu’n gadeirydd y grŵp ailstocio a sefydlu mewnol. Yn ystod y cyfnod hwn, bu’n astudio am MSc mewn Coedwigaeth gyda Phrifysgol Bangor, ac enillodd ei MICFor gyda Sefydliad y Coedwigwyr Siartredig. Yr hyn y mae Elaine yn gobeithio ei gynnig i’w rôl newydd fel Rheolwr Cenedlaethol Cymru Confor yw ei hegni a'i brwdfrydedd dros ein sector ynghyd â’i dealltwriaeth fewnol o CNC, sy’n cyfuno popeth gyda’r nod o weithio tuag at nod cyffredin pawb sef: gwella ac ehangu ein sector.  

Ben Goh, Rheolwr Masnachol, Maelor Forest Nurseries Ltd.

StJohn Ashworth, Rheolwr Gwerthu a Marchnata Pren, Cyfoeth Naturiol Cymru

Andrew Wright, Uwch Gynghorydd Arbenigol - Iechyd Planhigion a Throsglwyddo Gwybodaeth, Cyfoeth Naturiol Cymru

Sylwch y byddwn yn ffilmio'r sesiwn holi ac ateb yn y digwyddiad hwn ar gyfer ein cofnodion.  Rhowch wybod i ni os nad ydych am gael eich ffilmio.

Hysbysiad preifatrwydd