Pembroke hub invite

Mae menter Dosbarthu Bwyd Cymunedol Cymru, a arweinir gan PLANED, wrth ei bodd yn lansio ei hwb fwyd cyntaf ym mis Mehefin. Mae'r prosiect yn annog gwirfoddolwyr i gysylltu â chynhyrchwyr a chyflenwyr bwyd er mwyn gallu mwynhau bwyd iach am bris da.

Pembroke - Hwb Bwyd Ar Agor sign

Bydd hwb Sir Benfro yn lansio 20 Mehefin am 3.30pm yn y Tŷ Foundry. I ddechrau, bydd yr hwb bwyd cymunedol yn Sir Benfro yn cynnig ffrwythau a llysiau ffres gyda'r bwriad o ddatblygu'r amrywiaeth o gynnyrch yn y dyfodol. 

Dyma'r cyntaf i agor, ond rydym yn parhau i ddatblygu hybiau ar draws rhanbarth de-orllewin Cymru.

Dywedodd Peter Coleman, sy'n Ymddiriedolwr, ei bod 'hi'n wych cael hwb bwyd cymunedol yn y Tŷ Foundry! Mae'n gynnig gwych i'r ardal leol - ac yn gyfleus hefyd!' 

Mae’r prosiect hwn yn cael ei arwain gan PLANED, ac mae wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, a Llywodraeth Cymru.

Dysgwch fwy ar y wefan yma https://www.communityfood.wales/