Nadine Evans

Nid oes gan Nadine Evans unrhyw gefndir ffermio o gwbl – ond ceffyl da yw ewyllys a ‘ffermio yw’r cyfan roeddwn i erioed eisiau ei wneud!’ Nawr yn ei 50au cynnar, mae Nadine, a aned yn Lerpwl, yn byw’r freuddwyd wledig o’r diwedd. Mae ei gyrfa ffermio wedi cael dechrau gwych diolch i deulu ffermio blaengar yn Sir Fynwy sydd wedi rhoi profiad ymarferol i Nadine yn eu fferm organig gymysg 190 erw ac ystod eang o hyfforddiant y mae hi wedi’i wneud trwy Cyswllt Ffermio.

“I hybu’r holl sgiliau ymarferol rwy’n eu hymarfer bob dydd dan lygaid profiadol y teulu ffermio proffesiynol ac amyneddgar iawn hwn, sydd dan arweiniad Mr Robert Whittall o Square Farm yn Llanfihangel Troddi, fe wnes i droi at Cyswllt Ffermio, oherwydd roeddwn i eisiau meddu ar y wybodaeth ddiweddaraf o ran theori a phrofi fy lefelau fy hun o wybodaeth.”

Mae Nadine yn adrodd yn uniongyrchol i Mr Whittall, sef yr ail genhedlaeth i ffermio yn Square Farm, a'i fab Ryan. Mae’r fferm gymysg yn cael ei rhedeg gan y teulu mewn ffordd draddodiadol ac mae Nadine yn helpu gyda gwirio a hwsmonaeth ddyddiol yr holl wartheg, defaid, moch, geifr, ieir, hwyaid, gwyddau a’r tri merlyn, gan wneud yn siŵr bod ganddyn nhw ddigon o fwyd a dŵr ac yn cadw llygad barcud am broblemau posibl.

“Rwy’n teimlo’n hyderus fy mod yn gwybod pan fydd popeth yn iawn – ac fel arfer gellir bod yn sicr o hynny gyda diadell sy’n wyna yn yr awyr agored yn y gwanwyn ac sydd wedi’i magu ar gyfer ansawdd a pherfformiad – ond rwyf hefyd yn adnabod yr arwyddion pe bai dafad neu unrhyw un arall o anifeiliaid y fferm mewn anhawster neu’n dangos unrhyw arwyddion cynnar o broblemau iechyd,” meddai Nadine.

Tyfir cnydau grawn a gwreiddgnydau fel porthiant anifeiliaid a chynhyrchir nifer cynyddol o gnydau llysiau i gyflenwi siop boblogaidd Square Farm.

Mae Nadine wedi mynychu gweithdai iechyd a lles anifeiliaid Cyswllt Ffermio ar bynciau’n cynnwys colledion wyna, rheoli parasitiaid mewn defaid a Dolur Rhydd Feirysol Buchol ac mae hi hefyd wedi astudio mwy nag 20 o gyrsiau e-ddysgu wedi’u hariannu’n llawn ar faterion iechyd anifeiliaid.

“Gyda phob cwrs ar-lein yn cymryd tua 20 munud ac yn cynnig prawf hunanasesu byr ar y diwedd, rydw i wedi dysgu llawer iawn o wybodaeth, gan astudio pynciau sy’n amrywio o glefydau penodol a chyflyrau iechyd fel problemau wyna, cloffni, problemau llygaid ac anadlol i sgorio cyflwr y corff, bioddiogelwch ac ymwrthedd gwrthficrobaidd.”

Graddiodd Nadine gyda gradd amgylcheddol pan adawodd yr ysgol oherwydd i gynghorydd gyrfaoedd ei rhybuddio na fyddai unrhyw goleg amaethyddol yn rhoi lle iddi heb brofiad uniongyrchol o ffermio. Yna ar ôl priodi, symud tŷ fwy na 17 o weithiau - roedd ei gŵr yn y lluoedd arfog - a chyfres o swyddi yn gweithio gyda cheffylau, yn ei 40au penderfynodd weithio i gyfreithiwr er mwyn dod yn gyfreithwraig ei hun yn y pen draw. Yn anffodus, yn dilyn newidiadau i system cymorth cyfreithiol y DU, penderfynodd Nadine beidio â dilyn gyrfa gyfreithiol.

Yn 2012, gyda’i gŵr wedi ymddeol o fywyd milwrol erbyn hynny, symudodd y cwpl i gefn gwlad Sir Fynwy, lle gwnaeth gais am swydd fel ‘gwiriwr anifeiliaid’ gwirfoddol gyda’r ymddiriedolaeth bywyd gwyllt leol.

“Roeddwn i wrth fy modd gyda’r gwaith awyr agored ac yna des i’n hyfforddai glaswelltir, a dyna pryd y des i’n ymwybodol o faint o arweiniad a hyfforddiant oedd ar gael trwy Cyswllt Ffermio."

Pan ddaeth ei hyfforddeiaeth i ben, penderfynodd Nadine ei bod yn amser perffaith i chwilio am brofiad gwaith ymarferol gyda fferm leol.

Cyfarfu â’r teulu Whittall yn 2020 ac mae hi’n yn byw a bod yna ers hynny!

“Byddai fy ngalw i’n weithiwr fferm yn gorbwysleisio fy rôl, oherwydd rwy’n dal i ddysgu bob dydd, ond diolch i weithio ochr yn ochr â’r teulu hynod brofiadol hwn ynghyd â phopeth rydw i wedi’i ddysgu a byddaf yn parhau i ddysgu trwy Cyswllt Ffermio, rwy’n magu fy hyder yn raddol ac yn cael llawer mwy o wybodaeth a sgiliau ffermio.”

Cafodd Nadine hefyd ei thystysgrif gyrru tractor trwy gyllid cwrs hyfforddi achrededig Cyswllt Ffermio ac fe’i hanrhydeddwyd yn ddiweddar pan ofynnodd y teulu iddi yrru’r tractor 200 marchnerth â thriniwr 2.5 tunnell a chwynwr robotig ar gyfer eginblanhigion llysiau organig newydd eu plannu.

“Roedd Mr. Whittall eisoes wedi fy nysgu sut i yrru, trin a chynnal a chadw pob math o dractorau a pheiriannau fferm, ond mae mynychu dau ddiwrnod o hyfforddiant yn yr ystafell ddosbarth a hyfforddiant ymarferol allan yn y caeau, wedi bod yn hwb enfawr i fy hyder ac rwyf nawr wedi ennill cymhwyster gyrru tractor cydnabyddedig,” meddai Nadine.

Mae ei holl lwyddiannau Cyswllt Ffermio a thystysgrifau dysgu achrededig wedi’u lanlwytho ar gofnod ar-lein Storfa Sgiliau Nadine ac mae hi eisoes yn cynllunio ei chyrsiau hyfforddi nesaf.

“Mae’n wych gwybod bod gen i CV ffermio credadwy o’r diwedd!”

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Nadine Evans Lisa Powell and Mr Whittall