Ethan Williams

Mae fferm fynydd yng Nghymru sy’n ychwanegu gwerth i’w menter defaid ac eidion gyda gweithgarwch gwerthu yn uniongyrchol wedi ehangu ei dewis er mwyn cynnwys cig o foch, diolch i fenter arloesol gan Menter Moch Cymru.

Nid oedd Ethan Williams erioed wedi dod ar draws mochyn cyn iddo gystadlu mewn cystadleuaeth pesgi moch a gynhaliwyd gan Menter Moch Cymru ar y cyd â CffI Cymru.

“Soniais wrth fy mrawd y dylem gadw moch, fel jôc, yna penderfynais gofrestru ar gyfer y gystadleuaeth, cyn mynd ymlaen i’w hennill,” soniodd Ethan, sy’n ffermio gyda’i frawd, Ben, eu mam-gu, Sue Williams, a’u mam, Karen, ar Fferm Garth Uchaf ger Pentyrch, Caerdydd.

Ei wobr oedd pum porchell diddwyn a chyngor, arweiniad a chymorth ynghylch cadw moch gan Menter Moch Cymru.

Dewisodd foch Cymreig er mwyn cynnal teyrngarwch y fferm at fridiau brodorol.  “Rydym yn cadw Defaid Mynydd Cymreig a gwartheg Duon Cymreig, felly roedd cadw moch Cymreig yn gam naturiol,” dywedodd Ethan.

Dan arweiniad ei fentor ym Menter Moch Cymru, llanwyd y bylchau yn ei wybodaeth am foch yn gyflym.

“Bu’n rhaid i mi ddysgu cryn dipyn mewn amser byr, felly roedd y cymorth hwnnw yn bwysig iawn, a heb yr hyfforddiant hwnnw, ni fyddwn i fyth wedi dechrau cadw moch,” cyfaddefodd.

“Mae maeth ar gyfer moch yn hollol wahanol i’r hyn yr oeddwn yn gyfarwydd ag ef gyda defaid a gwartheg, ac nid oeddwn wedi sylweddoli pa mor anodd y gallent fod i’w trin, felly heb yr help a gefais gan Menter Moch Cymru, ni fyddwn wedi teimlo’n ddigon hyderus i wneud y gwaith.”

Ar ôl i’r pum mochyn gyrraedd eu pwysau ar gyfer eu lladd, gwerthwyd eu cig trwy focsys cig y fferm.  Unwaith eto, bu Menter Moch Cymru o gymorth trwy gynnig hyfforddiant a gweminarau ynghylch marchnata, rheoleiddio a nifer o faterion defnyddiol eraill.

Bu’r adborth a gafodd teulu Williams gan eu cwsmeriaid i’r gwerthiant porc cychwynnol hwnnw mor gadarnhaol fel eu bod yn pesgi llwythi o tua 15 o anifeiliaid nawr mewn buarth gwellt, gan brynu’r anifeiliaid fel perchyll pan fyddant yn saith wythnos oed gan fferm sydd bum milltir i ffwrdd, a’u pesgi.

Maent yn prynu moch Cymreig yn bennaf ond os na fydd y rhain ar gael, byddant yn dewis bridiau traddodiadol, megis moch Tamworth, gan fridiwr lleol unwaith eto.

Y cam nesaf yw cael eu hychod magu eu hunain, er mwyn cau cylch ‘y fforc i’r plât’.

Mae brwdfrydedd Ethan, ynghyd â’r wybodaeth a gafodd ar gyrsiau hyfforddiant Menter Moch Cymru – 11 hyd yn hyn – wedi golygu y bu modd iddo wneud newidiadau ar y fferm yn gyflym er mwyn integreiddio’r moch.

Yn ogystal, mae wedi cyflwyno rhai o’r cynghorion a’r syniadau a gafodd yn ystod taith astudio tri diwrnod i Ddyfnaint ym mis Mawrth 2022, a ariannwyd gan Fenter Moch Cymru, pan ymwelodd â rhai o’r cynhyrchwyr mwyaf llwyddiannus ac arloesol yn y DU.

“Roedd yn un o’r ffyrdd gorau o ddysgu, sef gweld sut y mae eraill yn gwneud hyn,” dywedodd Ethan.  “Roedd wedi cynnig cryn ddirnadaeth, a chawsom sesiynau ymarferol am y gwahanol ffyrdd gyda charcuterie hyd yn oed a sut i’w werthu, ac mae hwn yn bendant yn faes yr hoffem fentro iddo yn y dyfodol.”

Yn ddiweddar, cofrestrodd Ethan ar gyfer rhaglen ar-lein Mesur i Reoli Cyswllt Ffermio a Menter Moch Cymru.

Dywedodd y bu hyn yn hynod werthfawr wrth ei helpu i reoli’r data sy’n ymwneud â’r busnes moch, a hefyd, llyfryn sy’n cyd-fynd ag ef.

“Roeddwn wedi bod yn nodi’r holl rifau yn Excel ond gyda Mesur i Reoli, mae popeth yn llawer mwy amlwg a chlir, megis faint o bwysau y mae’r stoc wedi’i fagu.  Mae wedi gwneud popeth yn llawer fwy effeithlon.”

Ar hyn o bryd, mae’r busnes yn datblygu cyfleuster cigyddiaeth ar y fferm, er mwyn ehangu ei ddewis o ddarnau a chynhyrchion.

Mae cynnydd Ethan yn y diwydiant moch wedi bod yn rhyfeddol, ac mae’r wybodaeth y mae wedi’i chael trwy fod yn aelod o Grŵp Cynhyrchwyr Bach Rhith Menter Moch Cymru wedi helpu gyda hyn yn rhannol.

Mae Fferm Garth Uchaf yn swatio ar fryn saith milltir yn unig o brifddinas Cymru, lle y mae potensial da o ran cwsmeriaid ar gyfer ei bocsys cig.

“Yn y gorffennol, nid yw ffermwyr wedi bod yn wych wrth farchnata eu cynhyrchion, ond rydym yn gwella,” dywedodd Ethan.

Mae’n dweud ei fod yn ddiolchgar i Menter Moch Cymru am gynnig cyfleoedd iddo, yn enwedig y gystadleuaeth pesgi moch gychwynnol honno.

“Mae cystadlu yn y gystadleuaeth honno a’r cymorth yr ydym wedi’i gael wedi ein helpu i ddechrau cadw moch, i arallgyfeirio’r busnes ymhellach ac i ychwanegu incwm ychwanegol ar gyfer y fferm,” dywedodd.

“Rydym yn edrych ymlaen i ddatblygu hynny ymhellach yn y dyfodol.”

Ariennir Menter Moch Cymru gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.